No themes applied yet
Gweledigaeth 4 – Yr Archoffeiriad
1Yna dangosodd i mi Jehoshwa yr archoffeiriad yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, ac roedd y Satan ar yr ochr dde iddo yn ei gyhuddo. 2Ond dymaʼr ARGLWYDD yn dweud, “Dw iʼn dy geryddu diʼr Satan! Dw i, yr ARGLWYDD, sydd wedi dewis Jerwsalem, yn dy geryddu di! Maeʼr dyn yma fel darn o bren sydd wediʼi gipio allan oʼr tân.”
3Roedd Jehoshwaʼn sefyll o flaen yr angel, yn gwisgo dillad oedd yn hollol fochaidd. 4A dymaʼr angel yn dweud wrth y rhai oedd oʼi gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma feʼn dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw iʼn mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.”
5A dyma fiʼn dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhwʼn rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoiʼr wisg amdano, tra oedd yr angel yn sefyll yno.
6Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho, 7“Dyma maeʼr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml aʼr iard oʼi chwmpas. Byddiʼn cael rhyddid i fynd a dod o mlaen i fel yr angylion syʼn sefyll yma. 8Felly gwrando Jehoshwa, aʼr offeiriaid syʼn gweithio gyda ti – dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn. 9Am y garreg yma dw iʼn ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) – dw iʼn mynd i grafu arni eiriauʼr ARGLWYDD hollbwerus, syʼn dweud y bydda iʼn symud pechod oʼr tir mewn un diwrnod.’ 10Ac meddaiʼr ARGLWYDD hollbwerus – ‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden aʼi goeden ffigys.3:10 Micha 4:4’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015