No themes applied yet
Gweledigaeth 6 – Sgrôl yn hedfan
1Yna dyma fiʼn edrych eto, a gweld sgrôl yn hedfan! 2Dymaʼr angel yn gofyn i mi, “Beth wyt tiʼn weld?” A dyma fiʼn ateb, “Dw iʼn gweld sgrôl yn hedfan. Maeʼn anferth – tua naw metr o hyd, a phedwar metr a hanner o led!”
3A dyma feʼn dweud wrtho i, “Geiriau melltith sydd arni, ac maeʼn mynd allan drwyʼr wlad i gyd. Mae un ochr yn dweud y bydd unrhyw un syʼn dwyn yn cael ei daflu allan oʼr gymuned. Maeʼr ochr arall yn dweud y bydd yr un peth yn digwydd iʼr rhai syʼn dweud celwydd.5:3 Exodus 20:15-16”
4Dyma maeʼr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i wedi anfon y felltith yma allan i gartref pob lleidr, a phawb syʼn defnyddio fy enw i wrth ddweud celwydd ar lw. Bydd y felltith yn dinistrioʼr tŷ hwnnwʼn llwyr – y coed aʼr cerrig.”
Gweledigaeth 7 – Y wraig yn y gasgen
5Yna dymaʼr angel oedd yn siarad â mi yn camu ymlaen a dweud, “Edrych! Beth wyt tiʼn ei weld yn mynd i ffwrdd?” 6“Beth ydy e?” meddwn i. “Casgen ydy hi,” meddaiʼr angel. “Maeʼn cynrychioli drygioni pawb drwyʼr wlad i gyd.” 7Yna dymaʼr caead plwm oedd ar y gasgen yn cael ei godi, a dyna lle roedd gwraig yn eistedd yn y gasgen! 8A dymaʼr angel yn dweud, “Maeʼr wraig ymaʼn cynrychioli drygioni.” A dyma feʼn ei gwthio hi yn ôl iʼr gasgen a slamioʼr caead o blwm yn ôl iʼw le.
9Yna dyma fiʼn edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwyʼr awyr. Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr. Dyma nhwʼn codiʼr gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel iʼr awyr. 10A dyma fiʼn gofyn iʼr angel, “I ble maen nhwʼn mynd âʼr gasgen?” 11A dyma feʼn ateb, “I wlad Babilonia,5:11 Babilon Hebraeg, Shinar syʼn hen enw am wlad Babilon. Fel gyda hanes Tŵr Babilon yn Genesis 11, maeʼr hen enw Shinar (Genesis 11:2) yn arwyddo gwrthryfel yn erbyn Duw. i adeiladu teml iddi. Pan fydd y deml yn barod, bydd y gasgen yn cael ei gosod ar bedestal yno.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015