No themes applied yet
1Pan gyrhaeddodd Jehosaffat adreʼn ôl yn saff iʼr palas yn Jerwsalem, 2dymaʼr proffwyd Jehw fab Chanani yn mynd iʼw weld. Dyma feʼn dweud wrth y brenin, “Ydyʼn iawn dy fod tiʼn helpuʼr dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl syʼn casáu yr ARGLWYDD? Maeʼr ARGLWYDD wedi digio go iawn hefo ti am wneud y fath beth. 3Ac eto ti wedi gwneud pethau da. Rwyt ti wedi cael gwared â pholion y dduwies Ashera oʼr wlad ac wedi bod yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD.”
Jehosaffat yn penodi barnwyr
4Roedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond roedd yn mynd allan at y bobl i bob rhan oʼr wlad, o Beersheba i fryniau Effraim, iʼw hannog nhw i droiʼn ôl at yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid. 5Penododd farnwyr ym mhob un o drefi caerog Jwda, 6a dweud wrthyn nhw, “Gwyliwch beth dych chiʼn wneud. Dim plesio pobl ydyʼch gwaith chi. Dych chiʼn barnu ar ran yr ARGLWYDD, a bydd e gyda chi wrth i chi wneud hynny. 7Dangoswch barch ato a gwneud beth syʼn iawn. Dydyʼr ARGLWYDD ddim yn hoffi anghyfiawnder, dangos ffafriaeth na derbyn breib.”
8Yn Jerwsalem dyma Jehosaffat hefyd yn penodi Lefiaid, offeiriaid a rhai o benaethiaid Israel i farnu ar ran yr ARGLWYDD ac i ddyfarnu unrhyw achosion rhwng y bobl. 9Dyma feʼn dweud wrthyn nhw, “Rhaid i chi ddangos parch at yr ARGLWYDD a gwneud y gwaith yn onest ac yn ddidwyll. 10Pan fydd eich pobl syʼn byw yn y pentrefi yn dod ag achos atoch, rhybuddiwch nhw i beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. (Bydd achosion o dywallt gwaed a materion eraill yn ymwneud âʼr gyfraith a deddfau a rheolau gwahanol.) Os na wnewch chi eu rhybuddio nhw bydd Duw yn ddig gyda chi aʼch cydweithwyr. Ond os byddwch chiʼn ufudd, fyddwch chi ddim yn euog. 11Amareiaʼr offeiriad fydd âʼr gair olaf ar unrhyw fater yn ymwneud â cyfraith yr ARGLWYDD. A Sebadeia fab Ishmael, arweinydd llwyth Jwda, fydd yn delio gyda phopeth syʼn ymwneud âʼr brenin. Bydd y Lefiaid yn gweithredu fel swyddogion gweinyddol. Gwnewch eich gwaith yn hyderus! Bydd yr ARGLWYDD gydaʼr rhai syʼn gwneud job dda ohoni!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015