No themes applied yet
Jehosaffat ac Ahab
(1 Brenhinoedd 22:1-9)
1Roedd Jehosaffat yn gyfoethog iawn ac roedd parch mawr ato. Ond dyma feʼn gwneud cytundeb gwleidyddol gydag Ahab, aʼi selio drwy gael ei fab i briodi merch Ahab. 2Yna rai blynyddoedd yn ddiweddarach dyma feʼn mynd i ymweld ag Ahab yn Samaria. Dyma Ahab yn lladd llawer iawn o ddefaid a gwartheg i baratoi gwledd fawr i anrhydeddu Jehosaffat aʼi swyddogion, aʼi berswadio i fynd gydag e i ymosod ar Ramoth-gilead. 3Dyma Ahab, brenin Israel, yn gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat, “Dw i gyda ti. Bydd fy myddin yn dy helpu yn y frwydr.” 4Yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i niʼn gyntaf holi beth maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud.”
5Felly dyma frenin Israel yn casgluʼr proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhwʼn ateb, “Dos! Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth iʼr brenin!” 6Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydiʼr ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?” 7A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holiʼr ARGLWYDD drwyddo. Ond dw iʼn ei gasáu e, achos dydy e erioed wedi proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat. 8Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”
Proffwydoliaeth Michea
(1 Brenhinoedd 22:10-28)
9Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol, yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth giât i ddinas Samaria. Oʼu blaenau roedd yr holl broffwydi wrthiʼn proffwydo. 10Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma feʼn cyhoeddi, “Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi diʼn cornioʼr Syriaid gydaʼr rhain, ac yn eu difa nhw.’” 11Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddiʼn ennill y frwydr! Maeʼr ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.”
12Dymaʼr un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, maeʼr proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dwed diʼr un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.” 13Ond dyma Micheaʼn ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd Duw yn ei ddweud wrtho i.”
14Pan ddaeth e at y brenin dymaʼr brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma feʼn ateb, “Dos di! Byddiʼn llwyddo. Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i ti!” 15Ond dymaʼr brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddiʼn dweud dim byd ond y gwir wrtho i?” 16A dyma Micheaʼn dweud,
“Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau,
fel defaid heb fugail.
A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud,
‘Does ganddyn nhw ddim meistri.
Dylen nhw i gyd fynd adreʼn dawel.’”
17A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.”
18A dyma Micheaʼn dweud, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, aʼi fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo. 19A dymaʼr ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy syʼn gallu twyllo Ahab, brenin Israel, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a chael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol. 20Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dymaʼr ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’ 21‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddiʼn llwyddo iʼw dwyllo.’ 22Felly, wyt tiʼn gweld? Maeʼr ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di ddweud celwydd. Maeʼr ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”
23Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?”
24A dyma Micheaʼn ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi diʼn chwilio am ystafell oʼr golwg yn rhywle i guddio ynddi!”
25Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Arestiwch Michea aʼi roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. 26Dwedwch wrthyn nhw, ‘Maeʼr brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” 27A dyma Micheaʼn dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydyʼr ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma feʼn dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddwedais i!”
Ahab yn cael ei ladd yn y frwydr
(1 Brenhinoedd 22:29-35)
28Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead. 29A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw iʼn mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a dyma nhwʼn mynd iʼr frwydr.
30Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn iʼr capteiniaid oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.” 31Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhwʼn dweud, “Maeʼn rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhwʼn troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi, dymaʼr ARGLWYDD yn ei helpu. Dyma Duw yn eu harwain nhw i ffwrdd oddi wrtho. 32Roedden nhwʼn gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhwʼn gadael llonydd iddo. 33Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu âʼi fwa ar hap a tharo brenin Israel rhwng dau ddarn oʼi arfwisg. A dymaʼr brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan oʼr frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!” 34Aeth y frwydr yn ei blaen drwyʼr dydd. Roedd brenin Israel yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylioʼr Syriaid. Yna gydaʼr nos, wrth iʼr haul fachlud, dyma feʼn marw.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015