Skip to main content

Manna o’r nefoedd: Exodus 16.11–20 (Mawrth 5, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Darllen

Darllen

Exodus 16 Luc 19 Job 34 2 Corinthiaid 4            

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Exodus 16.11–20

Mae patrwm ailadroddus yn Exodus o'r bobl yn cwyno am ba mor galed yw eu bywydau, a Duw yn camu i mewn i'w cywiro neu eu hachub. Mae fel petai'n rhaid iddynt ddysgu, ar ôl eu holl flynyddoedd o gaethwasiaeth, sut i fyw fel pobl rydd.

Dyma un o'r amseroedd hyn. Maent yn cwyno bod Moses ac Aaron wedi dod â nhw allan i'r anialwch i'w llwgu i farwolaeth. Mae Duw yn darparu haid enfawr o soflieir a 'manna' ar eu cyfer. Mae arbenigwyr planhigion a biolegwyr wedi cynnig sawl eglurhad amrywiol o’r ‘manna o’r nefoedd’ rhyfedd hwn. Yn y stori, serch hynny, y pwynt yw bod Duw wedi gwneud i'r bobl yr hyn na allent ei wneud drostynt eu hunain. Nid ydynt wedi cael eu dwyn i'r anialwch i farw, ond i fyw.

Gall ein profiadau anialwch ein hunain fod yn galed iawn. Fel yr hen Israeliaid, ni welwn unrhyw obaith y bydd pethau'n gwella. Ond pan mae ei angen arnom fwyaf, yn aml mae rhywfaint o faeth neu fendith annisgwyl.

Mae'n werth nodi manylyn o'r stori. Rhoddir y manna o ddydd i ddydd - fel y 'bara beunyddiol' y dysgodd Iesu i'w ddisgyblion weddïo amdano. Os yw'n cael ei gadw am ormod o amser, mae'n llwydo. Mae gwers yma am ymddiriedaeth barhaus yn Nuw sy'n cael ei hadnewyddu o ddydd i ddydd - unwaith eto, wedi'i hatgyfnerthu gan orchymyn Iesu i beidio â ‘chasglu trysorau i chi'ch hunain yn y byd yma' (Mathew 6.19). Gall bendith a gedwir yn rhy hir ddod yn felltith.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch na fydd di byth yn cefnu arnaf, hyd yn oed yn amseroedd yr anialwch. Helpa fi i edrych am dy ddarpariaeth a chydnabod dy fendithion, gan ymddiried ynot ti o ddydd i ddydd am yr hyn sydd ei angen arnaf.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible