Skip to main content

Duw yw’r un sy’n iacháu: Exodus 15.22–27 (Mawrth 4, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Darllen

Darllen

Exodus 15 Luc 18 Job 33 2 Corinthiaid 3            

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Exodus 15.22–27

Mae Cân Miriam yn dywalltiad o fawl i Dduw am ei weithred fawr o iachawdwriaeth wrth ddod â'r bobl allan o'r Aifft. Ar ôl hyn, fodd bynnag, daw gyfnod isel arall - tridiau o grwydro trwy anialwch heb ddŵr. Mae'r dŵr maent yn ei ddarganfod yn chwerw, 'Mara' - roedd yr enw wnaeth Naomi, mam yng nghyfraith Ruth, gymryd iddi'i hun lawer yn ddiweddarach yn stori Israel. Fel hi, serch hynny, roedd Israel i ganfod i felyster annisgwyl: mewn gweithred sy’n rhagflaenu rhai o wyrthiau Eliseus (e.e. 2 Brenhinoedd 4.38–41), mae’r dŵr yn cael ei wneud yn iawn i’w yfed (adnod 25). Mae Duw yn rhoi ‘rheol iddyn nhw' ac yn disgrifio'i hun fel yr ‘ARGLWYDD sy'n eich iacháu chi. ' (adnod 26), cyn eu harwain at le mwy ffrwythlon. Elim oedd yr enw arno, yr enw a gymerir gan enwad Pentecostaidd: mae Duw yn iacháu, yn adnewyddu ac yn adfer ei bobl heddiw.

Mae'r ychydig adnodau hyn yn llawn ystyr i ni. Nid yw un fuddugoliaeth wych yn golygu y bydd popeth yn mynd yn llyfn o hynny ymlaen. Mae ein bywydau yn gyfres o heriau, a gelwir arnom i'w cwrdd yn ddewr a gobeithiol; fel y dywed Salm 23, mae porfeydd hyfryd a dyfroedd tawel, ond mae dyffrynnoedd mor dywyll â marwolaeth hefyd. Ond Duw yw'r 'un sy'n iacháu' o hyd; mae'n mynd gyda ni trwy'r anialwch.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch pan fydd fy mywyd yn chwerw, gallet ddod â melyster i mewn iddo. Diolch i ti pan fyddaf wedi cyrraedd pen fy nhennyn, mai ti yw'r un sy'n gwella. Diolch am amseroedd sy’n fy adfywio, am bob Elim yn fy mywyd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible