Skip to main content

Gweithwyr i Grist: Rhufeiniaid 16.1–16: (25 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 16

Mae Paul yn cloi ei lythyr at y Rhufeiniaid gyda chyfarchion personol cynnes. Mae’n argymell Phebe (adnodau 1-2), ‘gwas’ yr eglwys ac ‘amddiffynnwr’ neu ‘ffrind’ i lawer. Mae cyfieithwyr wedi dadlau ynghylch sut y dylid trosi’r geiriau Groeg: yn llythrennol ‘diacon’ yw ‘gwas’, ac yn dechnegol mae’r gair am ‘ffrind’ yn golygu noddwr neu amddiffynnwr. Mae cymaint o ysgolheigion yn credu bod Phebe yn ferch gyfoethog ac yn un o arweinyddion yr eglwys yn Cenchrea, ac fe’i hanfonwyd i Rufain fel cynrychiolydd Paul, gan dywys y llythyr ei hun efallai. Mae hon yn her sylweddol i’r rhai sy’n credu bod Paul yn wrth-ferched, neu’n gwrthwynebu eu gweinidogaeth.

Mae’n syndod pa mor aml y mae ‘gweithiwr’ neu ‘waith’ yn ymddangos yn y rhestr ganlynol o enwau (Priscila ac Acwila, Mair, Wrbanus, Tryffena a Tryffosa, Persis, Rwffus). Mae eraill yn cael eu canmol am yr hyn maent wedi’i wneud, fel Andronicus a Jwnia a oedd yn y carchar gyda Paul (adnod 7) neu Apeles, am ei deyrngarwch sicr i Grist (adnod 10). Mae cyferbyniad yma â’r rhai sy’n ‘twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith’ (adnod 18); maent yn ‘creu rhaniadau ac yn ceisio'ch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu’ (adnod 17).  

Mae yna lawer o ddiwinyddiaeth yn Rhufeiniaid, ond yn y diwedd mae’n llyfr ymarferol iawn. Mae’n bwysig credu’r pethau iawn, nid yn unig am fod gwirionedd yn bwysig iddo’i hun, ond oherwydd ei fod yn effeithio ar sut rydym yn byw. Os yw’r hyn yr ydym yn ei gredu yn cael ei weithio allan yn ymarferol o ddydd i ddydd wrth ofalu am ein gilydd a thystio i’r hyn y mae Crist wedi’i wneud drosom, bydd yn ein gwneud ‘yn gryf drwy'r newyddion da’ (adnod 25).

Gweddi

Gweddi

Duw, gad imi nid yn unig glywed dy eiriau o wirionedd, ond gweithredu arnynt. Trawsnewidia fi trwy nerth dy Ysbryd, a helpa fi i fyw yn ffyddlon i ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible