No themes applied yet
Cyfarchion Personol
1Dim ond pethau da sydd gen i iʼw dweud am Phebe, ein chwaer syʼn gwasanaethu yn eglwys Cenchrea. 2Rhowch groeso brwd iddi – y math o groeso mae unrhyw un syʼn credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi.
3Cofiwch fi at Priscila ac Acwila, syʼn gweithio gyda mi dros y Meseia Iesu.16:3 Actau 18:2 4Dau wnaeth fentroʼu bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydyʼr unig un syʼn ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysiʼr cenhedloedd hefyd!
5Cofion hefyd at yr eglwys syʼn cyfarfod yn eu tŷ nhw.
Cofiwch fi at fy ffrind annwyl Epainetws – y person cyntaf yn Asia i ddod yn Gristion.
6Cofiwch fi at Mair, sydd wedi bod yn gweithioʼn galed ar eich rhan. 7Hefyd at Andronicus a Jwnia,16:7 Jwnia: Mae rhai llawysgrifau yn dweud Jwlia. cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Maen nhwʼn adnabyddus fel cynrychiolwyr iʼr Arglwydd – roedden nhwʼn credu yn y Meseia oʼm blaen i.
8Cofion at Ampliatus, syʼn ffrind annwyl i mi yn yr Arglwydd.
9Cofion hefyd at Wrbanus, syʼn gweithio gyda ni dros y Meseia, ac at fy ffrind annwyl Stachus.
10Cofiwch fi at Apeles, sydd wedi profi ei hun yn ffyddlon iʼr Meseia.
Cofion at bawb syʼn gwasanaethu yn nhŷ Aristobwlus.
11Cofiwch fi at Herodion sydd yntauʼn Iddew, ac at y Cristnogion hynny syʼn gwasanaethu yn nhŷ Narcisws.
12Cofiwch fi at Tryffena a Tryffosa, dwy wraig syʼn gweithioʼn galed dros yr Arglwydd.
A chofiwch fi hefyd at Persis annwyl – gwraig arall sydd wedi bod yn gweithioʼn arbennig o galed dros yr Arglwydd.
13Cofion at Rwffus, gwas arbennig iʼr Arglwydd, ac at ei fam sydd wedi bod fel mam i minnau hefyd.
14A chofiwch fi at Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermes aʼr brodyr aʼr chwiorydd eraill gyda nhw.
15Cofion at Philologws a Jwlia, Nerews aʼi chwaer, ac Olympas a phob un oʼr credinwyr eraill sydd gyda nhw.
16Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae eglwysiʼr Meseia i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.
17Dw iʼn apelio atoch chi frodyr a chwiorydd, i wylioʼr bobl hynny syʼn creu rhaniadau ac yn ceisioʼch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw. 18Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethuʼr Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhwʼn twyllo pobl ddiniwed gydaʼu seboni aʼu gweniaith. 19Ond mae pawb yn gwybod eich bod chiʼn ufudd iʼr Arglwydd, a dw iʼn hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg. 20A bydd Duw, syʼn rhoiʼr heddwch dwfn, yn eich galluogi i ddryllio Satan dan eich traed yn fuan.
Dw iʼn gweddïo y byddwch chiʼn profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.
21Mae Timotheus, syʼn gweithio gyda mi yn anfon ei gyfarchion atoch chi; hefyd Lwcius, Jason a Sosipater, fy nghyd-Iddewon.
22(A finnau, Tertiws, sydd wedi rhoiʼr llythyr yma ar bapur. Dw iʼn eich cyfarch chi yn yr Arglwydd hefyd.) 23Mae Gaius yn anfon ei gyfarchion (yn ei gartref e dw iʼn aros), ac maeʼr eglwys syʼn cyfarfod yma yn anfon eu cyfarchion hefyd.
Cyfarchion hefyd oddi wrth Erastus, trysorydd cyngor y ddinas, a hefyd oddi wrth y brawd Cwartus.16:23 Cwartus: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn. 24, Dw iʼn gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist. Amen.
25Clod i Dduw, syʼn galluʼch gwneud chiʼn gryf drwyʼr newyddion da sydd gen i – sef y neges syʼn cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Maeʼr cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd, 26ond bellach mae wediʼi ddwyn iʼr golwg. Fel maeʼr ysgrifau proffwydol yn dweud, y rhai gafodd eu hysgrifennu drwy orchymyn y Duw tragwyddol – mae pobl o bob cenedl yn cael eu galw i gredu ynddo a bywʼn ufudd iddo. 27O achos beth wnaeth Iesu y Meseia, mae e, yr unig Dduw doeth, yn haeddu ei foli am byth! Amen!16:27 Amen!: Mae rhai llawysgrifau yn gosod adn. 25-27 ar ôl 14:23. Mae eraill yn eu gosod yma ac ar ôl 14:23, ac mae un llawysgrif yn eu gosod ar ôl 15:33.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015