No themes applied yet
1Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw aʼm galw i fod yn gynrychiolydd personol iʼr Meseia Iesu. A gan y brawd Sosthenes hefyd.
2At eglwys Dduw yn Corinth.1:2 gw. Actau 18:1-17 Dych chi wediʼch neilltuo gan Dduw i berthynas âʼr Meseia Iesu. Dych chi wediʼch galw i fod yn bobl sanctaidd, fel pob Cristion arall – sef pawb ym mhobman syʼn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist. Fe syʼn Arglwydd arnyn nhw ac arnon ni.
3Dw iʼn gweddïo y byddwch chiʼn profiʼr haelioni rhyfeddol aʼr heddwch dwfn mae Duw ein Tad aʼr Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Diolchgarwch
4Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi. Mae wedi bod mor hael, ac wedi rhoi cymaint o ddoniau i chi sydd wedi dod i berthyn iʼr Meseia Iesu. 5Mae wediʼch gwneud chiʼn gyfoethog yn eich gallu i siarad am bethau ysbrydol, aʼch gwybodaeth ysbrydol. 6Maeʼr neges am y Meseia wedi gwreiddioʼn ddwfn yn eich bywydau chi. 7Mae gynnoch chi bob dawn ysbrydol sydd ei angen arnoch tra dych chiʼn disgwyl iʼr Arglwydd Iesu Grist ddod yn ôl. 8Bydd eʼn eich cadw chiʼn ffyddlon iʼr diwedd un. Mae e am i chi fod yn ddi-fai ar y diwrnod mawr pan fydd ein Harglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl. 9Gallwch chi drystio Duw yn llwyr. Maeʼn gwneud beth maeʼn ei ddweud. Fe sydd wediʼch galw chi i rannu bywyd gydaʼi Fab, y Meseia Iesu ein Harglwydd ni.
Rhaniadau yn yr Eglwys
10Frodyr a chwiorydd, dw iʼn apelio atoch chi ar ran ein Harglwydd Iesu Grist – stopiwch ffraeo. Dw i eisiau i chi ddangos undod go iawn, yn lle bod wediʼch rhannuʼn ‘ni’ a ‘nhw’. 11Dw iʼn gwybod y cwbl amdanoch chi – mae rhai o bobl Chloe wedi dweud wrtho i am yr holl gecru yn eich plith chi. 12Mae un ohonoch chiʼn dweud, “Paul dw iʼn ei ddilyn”; rhywun arall yn dweud, “Apolos dw iʼn ei ddilyn,” neu, “Dw iʼn dilyn Pedr”;1:12 Pedr: Groeg, “Ceffas”, enw Aramaeg syʼn golygu ‘craig’ – yr un fath âʼr enw Pedr. ac wedyn un arall yn dweud, “Y Meseia dw iʼn ei ddilyn”!
13Ydy hiʼn bosib rhannuʼr Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chiʼch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na! 14Diolch byth, wnes i fedyddio neb ond Crispus a Gaius. 15Felly all neb ohonoch chi ddweud eich bod wedi cael eich bedyddio iʼm henw i! 16(O ie, fi fedyddiodd y rhai o dŷ Steffanas hefyd; ond dw iʼn reit siŵr mod i ddim wedi bedyddio neb arall.) 17Cyhoeddiʼr newyddion da ydyʼr gwaith roddodd y Meseia i mi, dim bedyddio pobl. A dw i ddim yn trio bod yn glyfar wrth wneud hynny chwaith, rhag ofn i rym y neges am groes y Meseia fynd ar goll.
Y Meseia – doethineb a grym Duw
18Maeʼr neges am y groes yn nonsens llwyr iʼr bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni syʼn cael ein hachub, dymaʼn union lle mae grym Duw iʼw weld. 19Fel maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“Bydda iʼn dinistrio doethineb dynol;
ac yn diystyru eu clyfrwch.”1:19 Eseia 29:14 (LXX)
20Ble maeʼr bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble maeʼr dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp! 21Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddioʼu clyfrwch eu hunain i ddod iʼw nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‘twpdraʼr’ neges dŷn niʼn ei chyhoeddi i achub y rhai syʼn credu. 22Maeʼr Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, aʼr cwbl maeʼr Groegiaid eisiau ydy rhywbeth syʼn swnioʼn glyfar. 23Felly pan dŷn niʼn sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, maeʼr fath syniad yn sarhad iʼr Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill. 24Ond iʼr rhai mae Duw wediʼu galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) – iddyn nhw, y Meseia syʼn dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw. 25Mae ‘twpdra’ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‘gwendid’ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl.
26Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chiʼn bobl arbennig o glyfar, na dylanwadol, na phwysig. 27Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‘twp’, i godi cywilydd ar y rhai hynny syʼn meddwl eu bod nhwʼn glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny syʼn dal grym. 28Dewisodd y bobl syʼn ‘neb’, y bobl hynny maeʼr byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai syʼn meddwl eu bod nhwʼn ‘rhywun’. 29Does gan neb le i frolio o flaen Duw! 30Fe sydd wediʼi gwneud hiʼn bosib i chi berthyn iʼr Meseia Iesu. Ac mae doethineb Duw iʼw weld yn berffaith yn Iesu. Fe syʼn ein gwneud niʼn iawn gyda Duw. Maeʼn ein gwneud niʼn lân ac yn bur, ac mae wedi taluʼr pris iʼn rhyddhau ni o afael pechod. 31Fel maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth maeʼr Arglwydd wediʼi wneud.”1:31 Jeremeia 9:24
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015