No themes applied yet
Diolch iʼr ARGLWYDD am ei ofal
Salm gan Dafydd. Smaliodd ei fod yn wallgof o flaen Abimelech. Cafodd ei anfon allan, ac aeth i ffwrdd yn saff.34:0 1 Samuel 21
1Dw i am ganmol yr ARGLWYDD bob amser;
aʼi foliʼn ddi-baid!
2Dw i am frolioʼr ARGLWYDD.
Bydd y rhai syʼn cael eu cam-drin
yn clywed ac yn llawenhau!
3Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi.
Gadewch i ni ei foli gydaʼn gilydd!
4Rôn i wedi troi at yr ARGLWYDD am help,
ac atebodd fi.
Achubodd fi oʼm holl ofnau.
5Maeʼr rhai syʼn troi ato yn wên i gyd;
does dim mymryn o gywilydd ar eu hwynebau.
6Dyma i chi ddyn anghenus wnaeth alw arno,
a dymaʼr ARGLWYDD yn gwrando
ac yn ei achub oʼi holl drafferthion.
7Mae angel yr ARGLWYDD fel byddin
yn amddiffyn34:7 fel byddin yn amddiffyn Hebraeg, “yn gwersylla o gwmpas”. y rhai syʼn ei ddilyn yn ffyddlon,
ac maeʼn eu hachub nhw.
8Profwch drosoch eich hunain mor dda ydyʼr ARGLWYDD.
Maeʼr rhai syʼn troi ato am loches wediʼu bendithioʼn fawr.
9Arhoswch yn ffyddlon iʼr ARGLWYDD, chi sydd wediʼch dewis ganddo,
mae gan y rhai syʼn ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen.
10Mae llewod ifanc yn gallu bod heb fwyd ac yn llwgu weithiau,
ond fydd dim angen ar y rhai hynny syʼn troi at yr ARGLWYDD am help.
11Dewch, blant, gwrandwch arna i.
Dysga i chi beth mae parchuʼr ARGLWYDD yn ei olygu.
12Ydych chi eisiau mwynhau bywyd?
Ydych chi eisiau byw yn hir a bod yn llwyddiannus?
13Rhaid i chi reoliʼch tafod a stopio twyllo,
14troi cefn ar ddrwg a gwneud beth syʼn dda;
a gwneud eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.
15Maeʼr ARGLWYDD yn gofalu am y rhai syʼn gwneud beth syʼn iawn,
ac yn gwrandoʼn astud pan maen nhwʼn galw arno.
16Ond mae e yn erbyn y rhai syʼn gwneud drygioni –
bydd yn cael gwared â phob atgof ohonyn nhw oʼr ddaear.
17Pan maeʼr rhai syʼn bywʼn iawn yn gweiddi am help,
maeʼr ARGLWYDD yn gwrando
ac yn eu hachub nhw oʼu holl drafferthion.
18Maeʼr ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau.
Mae eʼn achub y rhai sydd wedi anobeithio.
19Maeʼr rhai syʼn byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion,
ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwyʼr cwbl.
20Maeʼn amddiffyn eu hesgyrn;
fydd dim un yn cael ei dorri!
21Mae pobl ddrwg yn cael eu dinistrio gan eu drygioni eu hunain.
Bydd y rhai syʼn casáu pobl dduwiol yn cael eu cosbi.
22Ond maeʼr rhai syʼn gwasanaethuʼr ARGLWYDD
yn cael mynd yn rhydd!
Fydd y rhai syʼn troi ato fe am loches ddim yn cael eu cosbi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015