No themes applied yet
Cerdd 3 – Cosb a Gobaith
Y proffwyd:
1Dw iʼn ddyn syʼn gwybod beth ydy dioddef.
Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i.
2Mae e wedi fy ngyrru i ffwrdd
i fyw yng nghanol tywyllwch dudew.
3Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro,
yn ddi-stop.
4Mae wedi curo fy nghorff yn ddim,
ac wedi torri fy esgyrn.
5Mae fel byddin wedi fy amgylchynu,
yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw.
6Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch
fel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
7Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc.
Maeʼn fy nal i lawr gyda chadwyni trwm.
8Dw iʼn gweiddiʼn daer am help,
ond dydy eʼn cymryd dim sylw.
9Mae wedi blocio pob ffordd allan;
mae pob llwybr fel drysfa!
10Mae e fel arth neu lew3:10 Hosea 13:7-8; Amos 5:18-19
yn barod i ymosod arna i.
11Llusgodd fi i ffwrdd aʼm rhwygoʼn ddarnau.
Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun.
12Anelodd ei fwa saeth ata i;
fi oedd ei darged.
13Gollyngodd ei saethau
aʼm trywanu yn fy mherfedd.
14Mae fy mhobl wedi fy ngwneud iʼn destun sbort,3:14 Deuteronomium 28:37
ac yn fy ngwawdio i ar gân.
15Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw;
mae wedi llenwi fy mol gydaʼr wermod.
16Mae wedi gwneud i mi gnoi graean,
ac wedi rhwbio fy wyneb yn y baw.
17Does gen i ddim tawelwch meddwl;
dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus.
18Dwedais, “Alla i ddim cario mlaen.
Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.”
19Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartref
yn brofiad chwerw!
20Mae ar fy meddwl drwyʼr amser,
ac maeʼn fy ngwneud yn isel fy ysbryd.
21Ond wedyn dw iʼn cofio hyn,
a dyma syʼn rhoi gobaith i mi:
22Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd,
aʼi garedigrwydd eʼn para am byth.
23Maen nhwʼn dod yn newydd bob bore.
“ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!”
24“Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,”3:24 Dim ond … gen i Hebraeg, “Yr ARGLWYDD ydy fy siâr i” (cf. Numeri 18:20). meddwn i,
“felly ynddo fe dw iʼn gobeithio.”
25Maeʼr ARGLWYDD yn dda iʼr rhai syʼn ei drystio,
ac i bwy bynnag syʼn troi ato am help.
26Maeʼn beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar
iʼr ARGLWYDD ddod iʼn hachub ni.
27Maeʼn beth da i rywun ddysgu ymostwng3:27 ddysgu ymostwng Hebraeg, gymryd yr iau ar ei ysgwyddau.
tra maeʼn dal yn ifanc.
28Dylai rhywun eistedd yn dawel
pan maeʼr ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e.
29Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawr
yn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd.
30Dylai droiʼr foch arall iʼr sawl syʼn ei daro,
a bod yn fodlon cael ei gam-drin aʼi enllibio.
31Fydd yr Arglwydd ddim yn
ein gwrthod ni am byth.
32Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio,
achos mae ei gariad e mor fawr.
33Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddef
nac achosi poen i bobl.
34Os ydy carcharorion gwlad yn cael eu sathru,
35a hawliau dynol yn cael eu diystyru,
a hynny o flaen y Duw Goruchaf ei hun;
36os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys
– ydyʼr Arglwydd ddim yn gweld y cwbl?
37Pwy syʼn gallu gorchymyn i unrhyw beth ddigwydd
heb iʼr Arglwydd ei ganiatáu?
38Onid y Duw Goruchaf syʼn dweud beth syʼn digwydd
– pʼrun ai dinistr neu fendith?
39Pa hawl sydd gan rywun i gwyno
pan maeʼn cael ei gosbi am ei bechod?
40Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw,
a throi nôl at yr ARGLWYDD.
41Gadewch i ni droiʼn calonnau a chodiʼn dwylo
at Dduw yn y nefoedd, a chyffesu,
42“Dŷn ni wedi gwrthryfelaʼn ddifrifol,
a ti ddim wedi maddau i ni.
43Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau,
gan ladd pobl heb ddangos trugaredd.
44Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwl
nes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd.
45Ti wediʼn gwneud ni fel sbwriel a baw
yng ngolwg y bobloedd.
46Mae ein gelynion i gyd
yn gwneud hwyl am ein pennau.
47Mae panig aʼr pydew wediʼn dal ni,
difrod a dinistr.”
48Mae afonydd o ddagrau yn llifo oʼm llygaid
am fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio.
49Maeʼr dagrauʼn llifo yn ddi-baid;
wnân nhw ddim stopio
50nes bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr
oʼr nefoedd ac yn ein gweld ni.
51Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninas
yn fy ngwneud i mor drist.
52Mae fy ngelynion wedi fy nal fel aderyn,
heb reswm da i wneud hynny.
53Maen nhw wedi fy nhaflu i waelod pydew
ac yna ei gau gyda charreg.
54Roedd y dŵr yn codi uwch fy mhen;
rôn iʼn meddwl mod iʼn mynd i foddi.
55Ond dyma fiʼn galw arnat ti am help, O ARGLWYDD,
o waelod y pydew.
56Dyma tiʼn fy nghlywed iʼn pledio,
“Helpa fi! Paid gwrthod gwrando arna i!”
57A dyma tiʼn dod ata i pan oʼn iʼn galw,
a dweud, “Paid bod ag ofn!”
58Fy Meistr, rwyt wedi dadlau fy achos;
rwyt wedi dod iʼm hachub.
59Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O ARGLWYDD,
felly wnei di farnu oʼm plaid i?
60Ti wedi gweld eu malais nhw,
aʼr holl gynllwynio yn fy erbyn i.
61Ti wediʼu clywed nhwʼn gwawdio, O ARGLWYDD,
aʼr holl gynllwynio yn fy erbyn i.
62Maeʼr rhai syʼn ymosod arna i yn sibrwd
ac yn hel straeon yn fy erbyn drwyʼr amser.
63Edrycha arnyn nhw! – O fore gwyn tan nos
maen nhwʼn fy ngwawdio i ar gân.
64Tala nôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O ARGLWYDD;
rho iddyn nhw beth maen nhwʼn ei haeddu.
65Gyrra nhwʼn wallgof!
Melltithia nhw!
66Dos ar eu holau yn dy lid,
aʼu dileu nhw oddi ar wyneb y ddaear, O ARGLWYDD.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015