No themes applied yet
Cerdd 4 – Dinistr Jerwsalem
Y proffwyd:
1O! Maeʼr aur wedi colli ei sglein.
Dydyʼr aur pur ddim yn edrych fel aur ddim mwy!
Mae gemau gwerthfawr ar chwâl
ar gornel pob stryd.
2Roedd plant gwerthfawr Seion
yn werth eu pwysau mewn aur.
Ond bellach – O! maen nhw mor ddiwerth
a photiau pridd wediʼu gwneud gan grochenydd!
3Mae hyd yn oed y siacal yn magu ei rai bach
ac yn eu bwydo ar y fron,
ond mae fy mhobl i yn esgeulus oʼu plant
fel yr estrys yn yr anialwch.4:3 estrys yn yr anialwch Roedd cred fod yr estrys yn gadael ei hwyau ar lawr heb ofalu amdanyn nhw – gw. Job 39:13-18.
4Mae tafodauʼr babanod yn glynu i dop eu cegau
am fod syched arnyn nhw.
Mae plant bach yn cardota am fwyd,
ond does neb yn rhoi unrhyw beth iddyn nhw.
5Maeʼr bobl oedd yn arfer gwledda ar fwydydd moethus
yn marw o newyn ar y strydoedd.
Maeʼr rhai gafodd eu magu mewn dillad crand4:5 dillad crand Hebraeg, “ysgarlad”. Roedd ysgarlad yn lliw brenhinol ac yn arwydd o gyfoeth.
yn crafu drwyʼr sbwriel am rywbeth bach.
6Mae fy mhobl wedi cael eu cosbi am eu pechod
fwy na gafodd Sodom am ei gwrthryfel.
Cafodd Sodom ei dinistrioʼn sydyn gan Dduw,
heb i neb droi llaw iʼw helpu.4:6 Genesis 19:24-25; Eseciel 16:48-50
7Roedd arweinwyr Jerwsalem yn lanach naʼr eira
ac yn wyn fel llaeth.
Roedd eu cyrff yn iach,
ac yn sgleinio fel cwrel neu saffir.
8Ond bellach mae eu hwynebau yn ddu fel parddu.
Does neb yn eu nabod nhw ar y strydoedd.
Dŷn nhwʼn ddim byd ond croen ac asgwrn,
ac mae eu croen wedi sychu fel pren.
9Roedd y rhai gafodd eu lladd gydaʼr cleddyf
yn fwy ffodus naʼr rhai syʼn marw o newyn –
y rhai mae bywyd yn llifoʼn araf ohonyn nhw,
am fod ganddyn nhw ddim iʼw fwyta.
10Pan gafodd fy mhobl eu dinistrio,
roedd mamau, oedd unwaith yn dyner,
yn coginio eu plant iʼw bwyta!4:10 Deuteronomium 28:53-57
11Dymaʼr ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd.
Tywalltodd ei ddig ffyrnig a chynnau tân
wnaeth losgi sylfeini Seion.
12Doedd dim un brenin wedi dychmygu,
na neb arall drwyʼr byd i gyd,
y gallai unrhyw elyn neu ymosodwr
goncro dinas Jerwsalem.
13Ond dyna ddigwyddodd, am fod ei phroffwydi wedi pechu
aʼi hoffeiriaid wedi gwrthryfela.
Nhw oedd yn gyfrifol am ladd pobl ddiniwed yn y ddinas.
14Maen nhwʼn crwydroʼr strydoedd fel pobl ddall.
Does neb yn beiddio cyffwrdd eu dillad nhw,
am fod y gwaed wnaethon nhw ei dywallt
wediʼu gwneud nhwʼn aflan.
15Mae pobl yn gweiddi arnyn nhw, “Cadwch draw! Dych chiʼn aflan!
Ewch i ffwrdd! Peidiwch cyffwrdd ni!”
Felly dyma nhwʼn ffoi ac maen nhwʼn crwydro o gwmpas
o un wlad iʼr llall heb gael croeso yn unman.
16Yr ARGLWYDD ei hun wnaeth eu gyrru ar chwâl,
a dydy e ddim yn gofalu amdanyn nhw ddim mwy.
Does neb yn dangos parch at yr offeiriaid,
a does neb yn malio am yr arweinwyr.
17Roedd ein llygaid ni wedi blino
wrth i ni wastraffuʼn hamser yn edrych am help.
Roedden niʼn edrych allan oʼr tŵr gwylio
yn disgwyl am wlad wnaeth ddim dod iʼn hachub ni.
18Roedd ein gelynion yn ein hela bob cam oʼr ffordd.
Doedd hi ddim yn saff i ni fynd allan iʼr strydoedd hyd yn oed.
Roedd y diwedd yn agos; roedd ein dyddiau wediʼu rhifo;
oedd, roedd y diwedd wedi dod!
19Daeth y gelyn ar ein holau.
Roedden nhwʼn gyflymach nag eryrod.
Roedden nhwʼn ein hela ni ar y bryniau,
ac yn disgwyl i ymosod arnon ni yn yr anialwch.
20Cafodd anadl bywyd y genedl,
sef y brenin oedd wediʼi eneinio gan yr ARGLWYDD,
ei ddal mewn trap ganddyn nhw.
Dymaʼr un oedden niʼn credu fyddaiʼn ein hamddiffyn,
aʼn galluogi i oroesi yng nghanol y cenhedloedd.
21Chwarddwch chi am y tro, bobl Edom,4:21 Salm 137:7; Obadeia 1:11-14
a chi syʼn byw yn ngwlad Us,
ond maeʼch tro chi yn dod!
Bydd rhaid i chithau yfed o gwpan barn Duw,
nes byddwch chiʼn feddw ac yn noeth.
22Dych chi wedi cael eich cosbi, bobl Jerwsalem,
ond fyddwch chi ddim yn aros yn gaethion yn hir iawn.
Ond bydd Duw yn eich cosbi chi am eich pechod, bobl Edom.
Bydd eich drygioni yn dod iʼr amlwg.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015