No themes applied yet
Cerdd 5 – Gweddi am drugaredd
Pobl Jerwsalem yn gweddïo am drugaredd.
1ARGLWYDD, cofia beth sydd wedi digwydd i ni.
Edrycha arnon ni yn ein cywilydd!
2Maeʼn gwlad5:2 gwlad Hebraeg, “etifeddiaeth”, syʼn cyfeirio at y wlad roddodd Duw i Abraham – gw. Jeremeia 2:7; Deuteronomium 26:1. wediʼi rhoi yn nwyloʼr gelyn,
aʼn cartrefi wediʼu meddiannu gan bobl estron.
3Dŷn ni fel plant amddifad, heb dadau,
ac mae ein mamau fel gwragedd gweddwon.
4Rhaid i ni brynu dŵr iʼw yfed,
a thalu am y coed tân dŷn niʼn ei gasglu.
5Dŷn niʼn cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau;
wedi blinoʼn lân, ac yn cael dim gorffwys.
6Gwnaethon gytundeb gydaʼr Aifft ac Asyria,
er mwyn cael digon o fwyd i fyw.
7Roedd ein hynafiaid, syʼn farw bellach, wedi pechu;
a dŷn niʼn diodde canlyniadau eu drygioni nhw.5:7 Exodus 20:5
8Mae caethweision yn feistri arnon ni,
a does neb yn galluʼn hachub ni oʼu gafael nhw.
9Dŷn niʼn gorfod mentroʼn bywydau i nôl bwyd,
am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.
10Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn;
mae ein croen yn teimloʼn boeth fel ffwrn.
11Maeʼr gwragedd yn cael eu treisio yn Seion,
aʼr merched ifanc yn nhrefi Jwda.
12Maeʼr gelyn wedi crogi ein harweinwyr,
a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.
13Maeʼr dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithioʼr maen melin,
aʼr bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.
14Dydyʼr arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas,
ac maeʼr bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.
15Mae pob llawenydd wedi diflannu;
yn lle dawnsio dŷn niʼn galaru.
16Maeʼr dathlu wedi dod i ben.
Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!
17Dŷn niʼn teimloʼn sâl, ac wedi colli pob hyder;
maeʼr sbarc wedi diflannu oʼn llygaid,
18am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag;
dim ond siacaliaid sydd ynoʼn prowla.
19Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth;
mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau.
20Pam wyt ti wedi anghofio amdanon ni?
Pam wyt ti wedi troi cefn arnon ni mor hir?
21Tyn niʼn ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl.
Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm.
22Neu wyt ti wediʼn gwrthod niʼn llwyr?
Wyt ti wedi digioʼn lân gyda ni?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015