Skip to main content

Gwas yr Arglwydd: Eseia 42.1–9 (9 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 42

Mae Eseia 42 yn cynnwys un o bedair o 'ganeuon y gwas’ sydd yn y llyfr, sy’n sôn am ‘was yr Arglwydd’. Ym meddwl Eseia, y ‘gwas’ oedd Israel, a ddewiswyd gan Dduw i gyflawni ei ddibenion yn y byd gan eu bod yn byw yn ffyddlon yn ôl ei air. Cyflawnwyd ei broffwydoliaethau, serch hynny, yn Iesu, a gyflawnodd ewyllys ei Dad yn berffaith. Mae’r syniad yn adnod 7 am agor llygaid y deillion a rhyddhau carcharorion yn cael ei ailadrodd ym mhennod 61, a’i ddyfynnu gan Iesu yn Luc 4 fel disgrifiad o’i weinidogaeth ei hun.

Mae yno addewid rhyfeddol yn adnod 3. Fydd gwas Duw ‘ddim yn torri brwynen fregus nac yn diffodd llin sy'n mygu’. Mae hon yn ddelwedd gyfoethog iawn. Mae’n addewid ar gyfer pobl Dduw, sy’n wan ac sy’n methu ond byth yn cael eu hamddifadu. Mae’r addewid wedi’i osod yng nghyd-destun cyfiawnder: ni fydd pobl sy’n cael eu trin yn wael yn cael eu dinistrio gan yr hyn maent yn mynd drwyddo. Ond mae ‘cyfiawnder’ yn syniad mawr. Weithiau mae bywyd yn anodd i ni ac nid oes bai ar neb. Rydym wedi ein cleisio oherwydd dyna sut mae bywyd– ond nid yw hynny’n ei wneud yn iawn. Dyma addewid y bydd Duw gyda’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Ac fel cyflawnwr mawr y broffwydoliaeth hon, dangosodd Iesu’r tosturi hwn yn ei weinidogaeth ei hun. Fel y dywedodd yn Ioan 3.17, ‘Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio'r byd’.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weld dy waith yn fy mywyd bob dydd. Diolch i ti am fy mendithio trwy bobl eraill, a helpa fi i roi gogoniant i ti am yr hyn rwyt yn rhoi imi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible