Skip to main content

Gwerthfawr ac anrhydeddus: Eseia 43.1–7 (10 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 43

Yn y bennod hon rydym yn darllen mynegiadau teimladwy o ofal Duw am ei bobl. ‘Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di'n rhydd! Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti!’ (adnod 1). Mewn delweddau byw, mae’r proffwyd yn dod ag amddiffyniad Duw yn fyw: ni fydd ei bobl yn cael eu gorlethu pan fyddant yn ‘mynd drwy lifogydd’ neu yn ‘cerdded drwy dân’ (adnod 2). ‘Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti’ yw neges Duw (adnod 5).

Mae’r rhain yn eiriau hardd, y mae angen i ni eu darllen gyda llawenydd sobr: sobr, oherwydd rydym yn gwybod nad ydym yn cael ein hamddiffyn rhag pob ymosodiad gan elynion y ffydd, nac rhag y pethau sy’n mynd o chwith oherwydd ein bod yn ddynol. Ysgrifennwyd y geiriau hyn yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae eglwysi wedi rhoi’r gorau i gyfarfod er mwyn achub bywydau; nid ydym yn credu y bydd Duw yn ein cadw rhag haint dim ond oherwydd ein bod ni’n Gristnogion. A bu llawer, llawer o ferthyron yn ystod hanes yr Eglwys lle mae credinwyr yn wir wedi mynd trwy’r tân. 

Ond gallwn dal llawenhau yn yr addewidion hyn. Nid ‘barddoniaeth yn unig’ na breuddwyd wag ydynt: maent yn ein sicrhau bod Duw gyda ni, bod ganddo ddyfodol gogoneddus i ni, a’i fod yn ein caru ni â chariad tragwyddol. Fel yr ysgrifennodd y bardd William Cowper: ‘Bwriadau dyfnion arfaeth gras/ ar fyr aeddfeda’n llawn;/ gall fod y blodau’n chwerw eu blas,/ ond melys fydd y grawn.'

 

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am dy gariad tuag ataf. Helpa fi i dy gredu hyd yn oed pan na allaf weld be rwyt yn ei wneud yn fy mywyd, ac i ymddiried yn dy ddaioni tragwyddol.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible