Skip to main content

Duwiau diwerth: Eseia 44.9–20 (11 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 44

Ar ôl darlun hyfryd o gredinwyr llawn Ysbryd yn ymrwymo eu hunain yn llawen i wasanaethu Duw – ‘Bydd un yn dweud, ‘Dw i'n perthyn i'r ARGLWYDD’ (adnod 5) – mae Eseia 44 yn symud i ymosodiad dinistriol a doniol iawn ar eilunaddoliaeth. Mae’r proffwyd yn manylu ar y broses o wneud eilun fetel neu bren. Efallai bod rhywun yn torri coeden; mae’n llosgi peth ohono i gadw’n gynnes, mae’n defnyddio peth i bobi bara neu rostio cig. ‘Wedyn mae'n defnyddio beth sydd ar ôl i wneud eilun yn dduw iddo'i hun. Mae'n plygu o'i flaen, ac yn ei addoli. Mae'n gweddïo arno a dweud, ‘Achub fi – ti ydy fy Nuw i!’ (adnod 17).

Tu ôl i’r gwawd mae yna ymdeimlad o rwystredigaeth a dicter y gall rhywun fod mor anghywir. Efallai y byddem yn meddwl nad yw’r proffwyd yn hollol deg: credwyd bod duw yn trigo yn yr eilun yn hytrach na bod yn union yr un fath ag ef, er y gallai’r berthynas agos heb os guddio’r gwahaniaeth. Serch hynny, mae’r pwynt dal yn wir : mae’n wirion addoli pethau rydym wedi’i gwneud ein hunain, fel petaent yn fwy pwerus nag ydym ni. 

Mae angen dirnadaeth wrth gymhwyso hyn heddiw. Rydym dal i wneud eilunod; ond eu bod yn siapiau gwahanol. Rydym yn disgwyl cael ein hachub gan bethau rydym wedi’i gwneud, fel systemau economaidd neu wleidyddol, gwasanaeth iechyd neu gronfa bensiwn. Mae eglwysi yn gwneud eilunod allan o gerddoriaeth neu adeiladau neu draddodiadau.

‘Mae e'n bwyta ar bentwr o ludw’, dywed y proffwyd wrth gyfeirio at rai sy’n addoli eilunod (adnod 20); yr unig dduw yw Duw.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gydnabod yr eilunod rydw i’n cael fy nhemtio i ymddiried ynddynt yn hytrach na thi. Gad imi afael yn ysgafn ar bethau bydol, hyd yn oed pan fyddant yn ymddangos yn gryf ac yn ddiogel, a rhoi fy ffydd ynot Ti yn unig.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible