Skip to main content

Mwy na barddoniaeth: Eseia 41.11–20 (8 Mehefin 2020)

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 41

Yn y bennod hon mae’r proffwyd yn llawenhau yn sicrwydd iachawdwriaeth Duw. Mae yna ddisgrifiadau o’r ffordd y mae’n grymuso ac yn porthi ei bobl, mewn iaith farddonol fywiog. Bydd yn eu gwneud fel ‘sled ddyrnu’; (adnod 15) – gydag un ochr â cherrig miniog neu bigau haearn, ac yn cael ei defnyddio i wahanu’r grawn o’r gwellt. Bydd pobl Dduw yn dyrnu mynyddoedd: bydd eu gelynion yn cael eu chwythu i ffwrdd fel us. Roedd y cynaeafu’n waith sychedig. Byddai Duw yn eu disychedu (adnod 17); mewn tir poeth a sych, bydd yn ‘troi’r anialwch yn byllau dŵr, a’r tir sych yn ffynhonnau’ (adnod 18).

Ar un lefel mae hwn yn fynegiant gorfoleddus o ymddiriedaeth yn nyfodol Duw. Ond mae yna gyd-destun iddo hefyd. Mae adnod 2 yn sôn am yr ‘un o’r dwyrain’; dywed adnod 25, ‘Fi wnaeth godi’r un o’r gogledd’. Y person sy’n cyd-fynd â’r disgrifiad hwn yw’r Brenin Cyrus, a fyddai’n gorchfygu’r Babiloniaid ac yn dod a’r alltudiaeth i ben, gan ganiatáu i’r Iddewon ddychwelyd adref o’r diwedd.  

Felly nid dychmygion haniaethol, barddonol yw gweithredoedd achubol Duw. Maent wedi eu gwreiddio mewn digwyddiadau gwirioneddol a phobl go iawn. Pan ddarllenwn ddarnau fel hyn, yn ogystal â chael ein codi gan harddwch yr iaith, dylem eu daearu yn ein profiad ein hunain hefyd. Sut mae Duw yn ein helpu ni heddiw? Pwy mae Ef wedi ei ddewis i’n helpu ni? Ble mae’r ffynhonnau adfywiol y mae wedi’i rhoi inni mewn gwlad sychedig?

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weld dy waith yn fy mywyd bob dydd. Diolch i ti am fy mendithio trwy bobl eraill, a helpa fi i roi gogoniant i ti am yr hyn rwyt yn rhoi imi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible