No themes applied yet
Blwyddyn canslo dyledion
(Lefiticus 25:1-7)
1“Ar ddiwedd pob saith mlynedd, rhaid cyhoeddi fod dyledion yn cael eu canslo. 2Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid iʼr credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi run oʼi gydwladwyr yn Israel i daluʼr ddyled. Maeʼr amser i ganslo dyledion wedi dechrau. 3Gallwch hawlio ad-daliad gan bobl oʼr tu allan, ond mae dyledion eich cyd-Israeliaid i gael eu canslo.
4“Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd iʼch bendithio chi yn y wlad maeʼn ei rhoi i chi, 5os byddwch chiʼn ufudd ac yn cadwʼr holl orchmynion dw iʼn eu rhoi i chi heddiw. 6Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi.
7“Os bydd un o bobl Israel, syʼn byw yn un oʼch pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd. 8Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arnoʼi angen. 9Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan maeʼr seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd eʼn cwyno iʼr ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu. 10Dylech chi fod yn frwd iʼw helpu, a pheidio bod yn flin eich bod wedi gwneud hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn taluʼn ôl i chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi. 11Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw iʼn dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd.
Rhyddhau caethweision
(Exodus 21:1-11)
12“Os ydy un oʼch pobl, Hebrëwr neu Hebraes, yn gwerthuʼi hun i chi, dylai weithio i chi am chwe mlynedd, ond yna ar ddechrauʼr seithfed flwyddyn rhaid i chi ei ollwng yn rhydd. 13A pheidiwch ei anfon i ffwrdd yn waglaw – 14dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel maeʼr ARGLWYDD wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw. 15Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wediʼch gollwng chiʼn rhydd. Dyna pam dw iʼn gorchymyn i chi wneud hyn heddiw.
16“Ond os ydyʼr gwas yn dweud, ‘Dw i ddim eisiau dy adael di,’ am ei fod yn hapus gyda ti a dy deulu, a bod bywyd yn dda arno, 17cymer fynawyd a gwneud twll drwy ei glust iʼr drws. Wedyn bydd yn was i ti am weddill ei oes (ac maeʼr un peth iʼw wneud gyda dy forwyn).
18“Paid cwyno os ydyʼr gwas neuʼr forwyn am gael mynd yn rhydd. Wediʼr cwbl, byddi wedi cael chwe blynedd o wasanaeth am hanner y gost o gadw gwas cyflog. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn bendithio popeth wnei di os byddi diʼn ufudd.
Yr anifail cyntaf i gael ei eni
19“Rhaid i bob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni oʼr gwartheg, defaid a geifr gael ei gadw iʼw gyflwyno iʼr ARGLWYDD. Peidiwch gwneud iʼr ych cyntaf i gael ei eni weithio, na cneifioʼr ddafad neuʼr afr gyntaf i gael ei geni. 20Bob blwyddyn, dych chi aʼch teulu iʼw bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wediʼi ddewis. 21Ond peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth oʼi le arno iʼr ARGLWYDD – anifail syʼn gloff, yn ddall, neu gydag unrhyw beth arall oʼi le arno. 22Cewch fwytaʼr anifeiliaid hynny yn eich pentrefi, fel petaiʼn gig gasél neu garw. A gall pawb eu bwyta – y bobl syʼn lân yn seremonïol aʼr rhai sydd ddim. 23Ond rhaid i chi beidio bwytaʼr gwaed. Maeʼr gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015