No themes applied yet
1“Bobl Israel, chi ydy plant yr ARGLWYDD eich Duw. Felly peidiwch torriʼch hunain â chyllyll na siafioʼch talcen pan dych chiʼn galaru am rywun sydd wedi marw. 2Dych chiʼn bobl sydd wediʼch cysegru iʼr ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae e wediʼch dewis chi yn drysor sbesial iddoʼi hun.
Anifeiliaid ac adar glân ac aflan
(Lefiticus 11:1-47)
3“Peidiwch bwyta unrhyw beth syʼn ffiaidd. 4Dymaʼr anifeiliaid syʼn iawn iʼw bwyta: bustach, dafad, gafr, 5hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, aʼr ddafad fynydd.
6“Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac syʼn cnoi cil. 7Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau. (Er eu bod nhwʼn cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw iʼw hystyried yn aflan.) 8Peidiwch bwyta cig moch. (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!)
9“Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid syʼn byw yn y dŵr sydd ag esgyll a chennau arnyn nhw, 10ond dim byd sydd heb esgyll a chennau – maeʼr rheiny iʼw hystyried yn aflan.
11“Gallwch fwyta unrhyw aderyn syʼn lân yn seremonïol. 12Ond peidiwch bwytaʼr rhain: eryr, fwltur, fwltur du, 13barcud, hebog, bwncath, 14gwahanol fathau o frain, 15estrys, tylluan, gwylan, a hebog o unrhyw fath, 16tylluan fach, tylluan gorniog, tylluan wen, 17y pelican, eryr y môr, bilidowcar, 18storc, gwahanol fathau o grëyr, copog, naʼr ystlum chwaith.
19“Mae pryfed syʼn hedfan yn aflan hefyd. Peidiwch bwyta nhw. 20Gallwch fwyta unrhyw aderyn syʼn lân yn seremonïol. 21Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohonoʼi hun. Gallwch ei roi iʼr bobl oʼr tu allan syʼn byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chiʼn bobl wediʼu cysegru iʼr ARGLWYDD eich Duw.
“Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.
Rhoi deg y cant i Dduw
22“Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chiʼn rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn. 23Ac mae hwn i gael ei fwyta o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle bydd eʼn ei ddewis – deg y cant oʼr ŷd, y sudd grawnwin, yr olew olewydd, a phob anifail cyntaf-anedig – yn wartheg, defaid a geifr. Rhaid i chi ddysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw bob amser.
24“Pan fydd eʼn eich bendithio, os ydyʼr lle mae e wediʼi ddewis yn rhy bell, 25gallwch werthuʼr deg y cant oʼch cynnyrch, a mynd âʼr arian gyda chi yn ei le. 26Wedyn yno gallwch brynu cig eidion, cig oen, gwin, cwrw, ac unrhyw fwyd arall dych chi eisiau. 27Ond cofiwch ofalu am y rhai o lwyth Lefi syʼn byw yn eich pentrefi, gan nad oes ganddyn nhw dir fel y gweddill ohonoch chi.
28“Bob tair blynedd, rhaid i chi gymryd deg y cant o gynnyrch y flwyddyn honno aʼi storio yn eich pentrefi. 29Bydd yno iʼw ddefnyddio gan y rhai sydd o lwyth Lefi, aʼr mewnfudwyr, y plant amddifad, aʼr gweddwon yn y pentref. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddwch chiʼn ei wneud.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015