Skip to main content

Ffydd a hyder: 1 Ioan 5 (25 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Ioan 5

Ydych chi erioed wedi meddwl eich bod wedi mynd yn rhy bell neu wedi pechu gormod i gael eich achub? Efallai bod darllen am y ‘pechod marwol’ yn adnod 16 o’r bennod hon yn achosi i chi bryderu. Sut allwch fod yn sicr eich bod chi wedi cael eich derbyn a’ch maddau gan Dduw?

Ond dywed Ioan mai dyna pam ei fod yn ysgrifennu’r llythyr hwn – fel y gall y rheini ‘sy’n credu ym Mab Duw… wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol’ (adnod 13). Gallwn fod yn hyderus o’n hiachawdwriaeth.

Yn adnodau 6–10, mae Ioan yn ailadrodd ein rhesymau i fod yn hyderus o ran pwy yw Iesu a’i waith gorffenedig ar y groes. Roedd ef ei hun yn llygad-dyst o fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Crist (1 Ioan 1.1-3) ond mae yn ein hatgoffa bod ‘tystiolaeth Duw cymaint gwell’ na thystiolaeth pobl (adnod 9). Gallwn fod yn hyderus mai Iesu yw pwy mae Duw yn dweud ei fod.  

Mae Ioan yn ein sicrhau ein bod wedi dod at y Tad ac wedi ein cymodi ag Ef oherwydd ein cred yn Iesu. Rydym ‘wedi cael ein geni yn blant i Dduw’ (adnod 1) - ni yw ei blant ac rydym yn perthyn iddo; rydym wedi ‘ennill y frwydr yn erbyn y byd’ (adnod 4) – a ‘dydy’r Un drwg ddim yn gallu gwneud niwed’ i ni (adnod 18); mae Duw wedi rhoi ‘bywyd tragwyddol i ni, ac mae’r bywyd hwn i’w gael yn ei Fab’ (adnod 11). Y gwir rhyfeddol yw ‘dydy’r rhai sy’n perthyn i’r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi’ (Rhufeiniaid 8.1).

Felly beth yw’r ‘pechod marwol’? Mae’n debyg bod Ioan yn cyfeirio at wrthod derbyn mai Iesu yw’r Meseia. Mae am fod yn glir ynghylch pa mor ddifrifol yw’r gwrthodiad hwn felly ni fyddwn yn cael ein twyllo. Mae ein holl obaith a sicrwydd yn canolbwyntio ar Iesu Grist a ddywedodd, ‘Fi ydy’r ffordd, yr un gwir a’r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi’ (Ioan 14.6).

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, rhoddaf fy ffydd yn dy Fab, Iesu Grist. Diolch mai ynddo ef y gallaf fod yn gwbl hyderus yn fy iachawdwriaeth a gwybod bod gen i fywyd tragwyddol. Arglwydd, helpa fi i fyw bywyd o gariad sy’n dangos dy Ysbryd yn byw ynof fi ac yn fy nghadw rhag unrhyw beth allai gymryd dy le yn fy nghalon.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible