Skip to main content

1 Ioan 4.7–21: Cariad yw Duw (24 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Ioan 4

Mae pennod 4 o lythyr cyntaf Ioan yn ailadrodd y thema sydd wrth wraidd bywyd Cristnogol: bod Duw wedi estyn allan atom ni cyn i ni estyn ato Ef. Mae ‘cariad yn dod oddi wrth Dduw’ (adnod 7); ‘Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni’ (adnod 10); ‘Dŷn ni’n caru’n gilydd am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf’ (adnod 19).

Gras Duw yw ei fod Ef yn estyn allan a rhoi ei hun i’r rhai sydd ddim yn ei haeddu. Pan rydym yn caniatáu i ni’n hunain garu person arall, boed yn ffrind, cymar, neu aelod o’r teulu – yr unig ffordd y gallwn ddod yn agos at ddychmygu beth mae cariad Duw yn ei olygu – rydym yn gwneud ein hunain yn agored i gael ein brifo os yw’r person rydym wedi’i garu yn ein siomi.  Mewn perthnasoedd dynol, mae hyn yn digwydd yn aml. Wrth ein caru ni, mae Duw yn gwybod beth yr oedd yn ei wneud. Nid yn unig fel unigolion, ond fel hil ddynol, rydym yn ei siomi dro ar ôl tro. Mae saga hir yr Hen Destament yn adrodd y stori hon drosodd a throsodd, ac rydym yn gweld hyn yn cael ei ailadrodd yn ein bywydau ein hunain. Ond, meddai Ioan, nid yw hyn yn gwneud gwahaniaeth i Dduw, oherwydd ‘cariad ydy Duw’ (adnod 16).

Mewn undeb â Duw, rydym yn cael ein trawsnewid yn bobl gariadus. Felly nid oes gennym ddim i’w ofni, oherwydd ‘mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr’ (adnod 18); a’r ffaith ein bod yn cael ein caru yn llwyr yn golygu ein bod yn caru eraill hefyd (adnod 20). 

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am dy ras ryfeddol imi, am garu rhywun rwyt yn gwybod byddai’n dy siomi dro ar ôl tro. Maddau imi nad wyf wedi ymateb i dy gariad fel y dylwn, a dysga imi garu fel yr wyf wedi cael fy ngharu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible