No themes applied yet
Trefiʼr Lefiaid
1Dymaʼr ARGLWYDD yn siarad â Moses ar wastatir Moab, wrth afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. 2“Dwed wrth bobl Israel am roi rhai oʼu trefi iʼr Lefiaid fyw ynddyn nhw, gyda thir pori iʼw hanifeiliaid. 3Wedyn bydd ganddyn nhw le i fyw, a thir pori iʼw gwartheg aʼu defaid aʼu hanifeiliaid eraill. 4Rhaid iʼr tir pori o gwmpas y trefi fyddwch chiʼn eu rhoi iʼr Lefiaid ymestyn am tua 675 metr o wal y dre. 5Mae ffin allanol y tir pori i fesur 1,350 metr ar bob ochr – gogledd, de, dwyrain a gorllewin – gydaʼr dre yn y canol. Maeʼr tir yma i fod yn dir pori iʼr trefi.
6“Bydd chwech oʼr trefi fyddwch chiʼn eu rhoi iʼr Lefiaid yn drefi lloches, i rywun sydd wedi lladd person arall drwy ddamwain allu dianc yno. Rhaid i chi roi pedwar deg dwy o drefi eraill iʼr Lefiaid – 7pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda thir pori i bob un. 8Rhaid iʼr trefi dych chiʼn eu rhoi fod yn drefi sydd biau pobl Israel. Bydd nifer y trefi mae pob llwyth yn ei gyfrannu yn dibynnu ar faint y llwyth. Bydd y llwythau mwyaf yn rhoi mwy o drefi, aʼr llwythau lleiaf yn rhoi llai. Ond rhaid i bob llwyth gyfrannu rhai oʼu trefi iʼr Lefiaid.”
Trefi lloches
(Deuteronomium 19:1-13; Josua 20:1-9)
9Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 10“Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chiʼn croesiʼr Iorddonen i wlad Canaan, 11rhaid i chi ddarparu rhai trefi yn drefi lloches. Bydd rhywun sydd wedi lladd person arall drwy ddamwain yn gallu dianc yno. 12Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc rhag perthynas yr un gafodd ei ladd, sydd am ddial. Ddylaiʼr lladdwr ddim cael ei ladd cyn sefyll ei brawf o flaen y bobl. 13Rhaid darparu chwe tref lloches – 14tair yr ochr yma i afon Iorddonen a thair yn Canaan. 15Bydd y chwe tref yma yn drefi lloches i bobl Israel, i bobl oʼr tu allan ac i fewnfudwyr. Gall unrhyw un syʼn lladd person arall drwy ddamwain ddianc iddyn nhw.
16“‘Ond mae rhywun syʼn taro person arall yn farw â bar haearn yn llofrudd. Rhaid gweinydduʼr gosb eithaf – maeʼn llofrudd. 17Neu os ydy eʼn taflu carreg ddigon mawr i ladd rhywun at berson arall, aʼr person hwnnwʼn marw, maeʼn llofrudd. Rhaid iʼr llofrudd farw. 18Neu os ydy eʼn taro rhywun yn farw â darn o bren, maeʼn llofrudd. Rhaid iʼr llofrudd farw. 19Mae gan berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio hawl i ladd y llofrudd yn y fan aʼr lle. 20Os ydy rhywun yn lladd person arall drwy ei daro â rhywbeth neu daflu rhywbeth atoʼn fwriadol, 21neu drwy roi dyrnod iddo, maeʼn llofrudd. Rhaid iʼr llofrudd farw. Rhaid i berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio ladd y llofrudd yn y fan aʼr lle.
22“‘Ond os oedd wedi taroʼr person arall neu daflu rhywbeth ato aʼi daroʼn ddamweiniol, 23neu ollwng carreg ddigon mawr iʼw ladd, heb fod wediʼi weld (hynny ydy, os oedd yna ddim casineb na bwriad i wneud drwg iʼr person arall), 24rhaid iʼr bobl farnuʼr achos rhwng yr un syʼn cael ei gyhuddo o ladd aʼr perthynas agosaf sydd am ddial arno. 25Rhaid iʼr bobl amddiffyn y lladdwr rhag y perthynas agosaf sydd am ddial arno. A rhaid anfon y lladdwr i fyw yn y dref lloches agosaf. Bydd rhaid iddo aros yno nes bydd yr archoffeiriad, gafodd ei eneinio âʼr olew cysegredig, wedi marw. 26Ond os ydyʼr un syʼn cael ei gyhuddo oʼr drosedd yn gadael y dref lloches mae wedi dianc iddi, 27a pherthynas agosaf yr un gafodd ei lofruddio yn dial arno aʼi ladd, fydd hynny ddim yn cael ei ystyried yn llofruddiaeth. 28Dylai fod wedi aros yn y dref lloches nes iʼr archoffeiriad farw. Ar ôl iʼr archoffeiriad farw, maeʼn rhydd i fynd yn ôl adre.
29“‘Dyma fydd y drefn gyfreithiol ar hyd y cenedlaethau, lle bynnag fyddwch chiʼn byw. 30Mae pob llofrudd i gael ei ddienyddio, ond rhaid cael tystion. Dydy un tyst ddim yn ddigon i rywun gael ei ddedfrydu i farwolaeth. 31A rhaid peidio derbyn arian yn lle rhoiʼr llofrudd i farwolaeth. Rhaid i bob llofrudd gael ei ddienyddio. 32Rhaid peidio derbyn arian chwaith i ollwng rhywun sydd wedi dianc i dref lloches yn rhydd, fel ei fod yn gallu mynd yn ôl adre i fyw cyn marwolaeth yr archoffeiriad. 33Peidiwch llygruʼr tir lle dych chiʼn byw – mae llofruddiaeth yn llygruʼr tir! A does dim byd yn gwneud iawn am lofruddiaeth ond dienyddioʼr llofrudd. 34Peidiwch gwneud y tir ble dych chiʼn byw yn aflan, achos dyna ble dw iʼn byw hefyd. Fi ydyʼr ARGLWYDD syʼn byw gyda fy mhobl Israel.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015