Skip to main content

Gwyliwch allan am athrawon ffug: 2 Ioan (26 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Ioan

Hyd yn oed o fewn oes bywyd pobl fel yr apostol Ioan a oedd yn ddilynwyr agos i Iesu ac a welodd drostynt eu hunain ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad, roedd athrawon ffug yn teithio o gwmpas ac yn arwain credinwyr ar gyfeiliorn gyda neges nad oedd y gwir efengyl. Maent dal yno heddiw, hyd yn oed os ydynt yn cyfathrebu trwy wahanol ddulliau.

Mae Ioan yn ysgrifennu’r llythyr hwn at gymuned o gredinwyr, gan eu rhybuddio am y perygl a’u cynghori ar sut i wrthsefyll dysgeidiaeth ffug. Nid oedd ‘twyllwyr’ bob amser yn hawdd i’w hadnabod oherwydd eu bod yn honni eu bod yn Gristnogion, ond mae Ioan yn dynodi dau rybudd amlwg yn adnodau 7 a 9. Maent yn ‘gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a’i fod yn ddyn go iawn’ (adnod 9) ac yn honni bod eu dysgeidiaeth ar y blaen i ddysgeidiaeth Crist.

Ond mae unrhyw rai ‘sy’n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw’ (adnod 9). Pan fyddwn yn dod ar draws cynnwys sy’n cael ei farchnata fel Cristnogol, dylem fod yn wyliadwrus o ddysgeidiaeth ffug dim ots pa mor gynnil y mae wedi’i guddio ymhlith phethau sydd i’w weld yn gywir. Hefyd, os nad yw Crist yng nghanol y cynnwys hwnnw, ni ddylem helpu i’w hyrwyddo.

Ysgrifenna Ioan na ddylai credinwyr gefnogi cenhadaeth athrawon ffug mewn unrhyw ffordd (adnod  10–11). Efallai bod hyn yn ymddangos yn anodd cysoni â gorchymyn ailadroddus Ioan i ‘garu ei gilydd’ ond yn sicr nid yw’n drwydded i gredinwyr fod yn annymunol i unrhyw un. Rydym yn dystion cariadus i eraill pan rydym yn byw ‘yn ffyddlon i’r gwir’, a chredu yn Iesu ac ufuddhau i orchmynion Duw (adnod 4).

Gweddi

Gweddi

Annwyl Arglwydd, helpa imi gerdded mewn gwirionedd a chariad. Cadwa fi’n wyliadwrus a rho imi ddoethineb i ddirnad unrhyw ddysgeidiaeth nad yw ohonot ti. Helpa imi dystio i’r rhai sy’n cael eu twyllo, mewn ffordd sy’n eu cyfeirio’n gariadus at y gwir am Grist a’r gobaith sydd ganddynt ynddo.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible