Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Salm Frenhinol yw Salm 89, un o ddetholiad o salmau sydd i gyd yn cynnwys nodweddion sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng Duw a’r brenin. Er enghraifft, mae rhai yn ymwneud â choroni, rhai yn apelio am gymorth cyn brwydr, ac mae rhai ar gyfer priodasau brenhinol. Mae Salm 89 yn ymwneud â helbul cenedlaethol ar ôl i’r brenin gael ei drechu mewn brwydr.
Mae’r salmydd yn dechrau trwy foli Duw a disgrifio’r cyfamod a wnaeth Duw â Dafydd. Ar awr mor boenus i’r genedl mae’n cofio nerth Duw a’i fod wedi addo y bydd llinach Dafydd yn cael ei chadw am byth.
Mae’r salm yn troi’n alarnad yn adnodau 38-51, gyda chyhuddiadau nad yw Duw wedi cadw ei addewid i Dafydd. Mae hyn yn awgrymu bod y brenin wedi wynebu cael ei drechu mewn brwydr ac yn debygol wedi marw. Efallai fod y salm yn cyfeirio at farwolaeth Joseia yn 609 CC (2 Brenhinoedd 23.29) – brenin da, ac un a oedd wedi dileu’r llygredd a welodd o’i flaen – neu efallai ei fod yn gyfeiriad at ddinistr Jerwsalem gan y Babiloniaid yn 587/6 CC.
Mae’r salm yn gorffen gyda’r salmydd yn dod a’i alar at Dduw mewn gweddi. Mewn sefyllfa na all ei ddeall yn ei feddwl, mae’n troi at Dduw.
Roedd y gobaith Meseianaidd, yr addewid o frenin gwasanaethgar yn llinell Dafydd sy’n cynrychioli Duw ar y ddaear, yn parhau er gwaethaf cyfres o frenhinoedd drwg a chwymp Jwda yn y pen draw.
Mae Cristnogion yn gweld bod y gobaith Meseianaidd hwn wedi’i gyflawni yn Iesu. Felly o’n safbwynt ni nid oedd Duw wedi methu yn ei addewid ond roedd ei bwrpas hyd yn oed yn fwy a’i raddfa amser yn wahanol i ddisgwyliadau’r salmydd.
Dad Nefol, diolch am Iesu, Brenin sy’n achub. Amen.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Katy Dorrer, Swyddog Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl.