Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Gyda theyrnasiad y Brenin Solomon, cyrhaeddodd cenedl unedig yr Hebreaid brig ei phŵer. Cyflwynir ei lywodraethu fel oes aur o heddwch, cyfoeth a diogelwch a roddwyd gan Dduw, wedi’i symboleiddio trwy adeiladu teml odidog.
Hyd yn oed yn nyddiau cynnar ei deyrnasiad, pan ymddengys bod popeth yn mynd yn rhyfeddol o dda, mae yna rybudd. Mae ei lwyddiant yn amodol ar ei ufudd-dod (adnodau 4-7). Fel y gwelwn, nid yw’n hir cyn i’r dyfarniad hwn ddod i rym. Roedd doethineb Solomon am ei adael, a byddai ei bobl yn talu’r pris.
Efallai mai’r amser ble mae perygl ysbrydol ar ei fwyaf ym mywydau cenhedloedd, eglwysi ac unigolion yw pan maent ar y brig. Yna, mae angen i ni glywed lleisiau proffwydol yn ein rhybuddio na allwn ddibynnu ar bŵer, cyfoeth a llwyddiant i barhau am byth.
Uchafbwynt yr Ymerodraeth Brydeinig oedd ym 1897, pan ddathlodd y Frenhines Fictoria ei Jiwbilî Diemwnt a daeth cynrychiolwyr chwarter y byd i dalu gwrogaeth iddi mewn gorymdaith enfawr. Yn ei gerdd ar gyfer yr achlysur, serch hynny, fe darodd Rudyard Kipling nodyn hollol wahanol:
The tumult and the shouting dies;
The Captains and the Kings depart:
Still stands Thine ancient sacrifice,
An humble and a contrite heart.
Roedd yn ein hatgoffa’n fod Duw yn sofran, a’i fod yn barnu’r galon, nid ein pŵer gwleidyddol na’n balans banc.
Duw, paid â gadael imi gael fy nallu gan lwyddiant bydol. Pan gaf y nhemtio i fod yn hyderus yn fy llwyddiannau fy hun neu gyflawniadau eraill, helpa fi i gofio nad oes unrhyw beth yn ddiogel heblaw dy addewidion.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.