Skip to main content

Cri am help: Salm 88 (3 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 88

Galar unigol arall yw’r salm hon. Mae’n arbennig o arwyddocaol gan ei fod yng nghanol llyfr y Salmau a dyma’r unig alarnad sydd heb unrhyw obaith – mae fel petai’r salmyddion am ddod â ni i’n pwynt isaf cyn i’w salmau ddechrau troi cornel a dod yn fwy gobeithiol yn ail hanner y llyfr.

Mae’r diffyg gobaith a chanmoliaeth hwn yn beth trawiadol ynddo’i hun. Mae’n mynegi’n onest ein bod weithiau wedi cyrraedd y gwaelod isaf ac yn teimlo fel bod Duw wedi cefnu arnom. Mae cydnabod mai dyma’r realiti i’r mwyafrif ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau – ac i rai yn frwydr reolaidd – yn helpu i gael gwared â’r stigma. Daw’r salm hon i ben gydag ochenaid boenus mai ‘Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy'r tywyllwch!” Yn wahanol i alarnadau eraill, nid yw byth yn cyrraedd pwynt o ganmol Duw.

Fodd bynnag, mae’r salm gyfan yn ddeialog onest â Duw – ac mae ffydd y salmydd wrth barhau i geisio Duw yn enghraifft wirioneddol arwyddocaol i ni. Weithiau os na all pobl fod yn hapus neu ‘esgus’ eu bod, gellir eu cyhuddo o ddiffyg ffydd – ond nid yw hynny’n wir ac mae’r salm hon yn ei dangos. Mae’r gonestrwydd yn y salm hon yn anogaeth enfawr oherwydd hyn.

Mae’r salm hefyd yn ein herio i fod yn ffrindiau gwell i eraill, ac i sefyll wrth eu hymyl trwy’r boen.

Gweddi

Gweddi

Dad Nefol, hyd yn oed pan nad ydym yn ei deimlo, rwyt gyda ni. Datgela dy hun i ni heddiw. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Katy Dorrer, Swyddog Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible