Skip to main content

Dw i'n dy geryddu di Satan!: Sechareia 3.1–10 (15 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 3.1–10

Mae tri chymeriad yn y bennod hon: Jehoshwa, Satan ac angel yr Arglwydd. Llefarydd Duw yw’r angel, sy’n siarad â’i lais. Jehoshwa yw’r Archoffeiriad (Esra 3.2), sydd gyda Serwbabel, y byddwn yn cwrdd ag ef yn y bennod nesaf, yn arwain y gwaith o ailadeiladu’r Deml. Nid ‘gelyn Duw a dyn’ traddodiadol yw Satan; y gair yn llythrennol yw ‘y satan’ neu’r ‘cyhuddwr’. Yn y weledigaeth mae ei rôl fel erlynydd mewn llys barn Duw, ac mae’n barod i gyhuddo Jehoshwa, sy’n gwisgo dillad ‘mochynnaidd’ (adnod 3); mae’r gair yn gysylltiedig â ‘charthion’.

Mae cyflwr ei wisg yn symbol o’i euogrwydd. Mae’r Archoffeiriad sy’n gweithio i ailadeiladu Tŷ Dduw ar y ddaear ei hun yn annheilwng o’i dasg; mae’r satan yn iawn. Ond mae’r angel yn siarad geiriau maddeuant: ‘Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i'n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.’ (adnod 4). Ac os bydd Jehoshwa yn parhau i fod yn ffyddlon, clywir ei weddïau; rhoddir iddo, yn ôl pob tebyg yn ei arwisgiad pan fydd y Deml wedi'i chwblhau, carreg sy’n symbol o ddoethineb; a bydd yr holl wlad yn cael maddeuant.

Heddiw, efallai y byddwn ni’n wynebu sataniaid ein hunain; cyhuddwyr sy’n ein hatgoffa o’n gwendid, ein methiant a’n heuogrwydd. Mae llawer ohonom ni’n byw gyda chywilydd dwfn, ac yn teimlo nad ydym gymwys i berthynas i eraill. Ond dywed angel Duw, ‘Dw i'n dy geryddu di Satan!’ (adnod 2). Rydym yn cael maddeuant, yn cael ein glanhau a’n gwneud yn ddefnyddiol i Dduw oherwydd ei ras cariadus tuag atom ni.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i beidio cael fy llethu gan wybodaeth am fy mhechod nes imi anghofio dy drugaredd a’th ras, sy’n fwy byth.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible