Skip to main content

Dilynwch fi: Mathew 4.18–22 (23 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdodau Dyddiol: Mathew 4

Mae stori galw’r disgyblion cyntaf mor gyfarwydd fel nad ydym bob amser yn gweld pa mor rhyfeddol ydyw. Mae Iesu’n cerdded ar hyd lan y llyn ac yn gweld Pedr ac Andreas yn pysgota; “Dewch, dilynwch fi’, meddai ‘a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod” (adnod 19). Yna mae’n galw ar Iago ac Ioan yn yr un modd. 

Mae ei eiriau rhywle rhwng gwahoddiad a gorchymyn, ond yr argraff yw bod ei ddewis bron ar hap. Nid yw wedi cynnal cyfweliadau nac wedi ystyried eu hanes yn gyntaf; nid yw’n ffordd amlwg o ddewis y ffigyrau allweddol mewn mudiad sy’n newid y byd. A welodd ef rinwedd arbennig ynddynt? Neu efallai ei fod yn cerdded ar hyd y lan ar yr adeg iawn i gwrdd â’r ymgeiswyr gorau posibl?

Mae esboniad arall sy’n llawer mwy heriol. Efallai na aeth allan o’i ffordd yn fwriadol i ddewis yr ymgeiswyr gorau; efallai ei fod newydd alw’r rhai a fyddai’n derbyn ei wahoddiad. Oherwydd iddynt ateb yr alwad y mae’r Eglwys wedi’i sefydlu, newidiwyd y byd ac rydym yma heddiw.

Felly gallem ddysgu o hyn nad yw Duw yn galw’r cymwysedig; mae’n cymhwyso’r rhai a elwir. Gelwir ar bob crediniwr i ddilyn Crist a ‘dal pobl’. Roedd y disgyblion cyntaf yn gyffredin iawn. Daethant yn anghyffredin oherwydd iddynt gael eu grymuso gan yr Ysbryd Glân. Doedden nhw ddim mwy arbennig na ni – a dim llai.

Gweddi

Gweddi

Dduw, diolch i ti am fy ngalw i dy wasanaethu. Helpa fi i ymddiried y byddi di’n fy nghymhwyso i wneud yr hyn yr wyt yn ei wneud, ac i wynebu’r dyfodol gyda dewrder a gobaith.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible