Skip to main content

Dicter cyfiawn?: Luc 9.51–56 (24 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch am dy air. Helpa fi i wrando. Helpa fi i ymddiried. Helpa fi i weithredu.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 9.51–56

Mae pennod 9 yn cychwyn taith Iesu o dalaith wledig Galilea i’r brifddinas ysbrydol, Jerwsalem. Wrth iddo deithio trwy ranbarth o’r enw Samaria, mae rhai o’i ddisgyblion, sydd wedi mynd ymlaen i bentref, yn cael eu gwrthod gan ei thrigolion.

Roedd y Samariaid yn ddisgynyddion o Iddewon a oedd wedi priodi ag ymsefydlwyr Asyraidd yn yr wythfed ganrif CC. Ar un adeg fe wnaethant hyd yn oed adeiladu eu teml eu hunain i gystadlu â theml Jerwsalem.

Felly, pan mae Iesu a’r disgyblion yn agosáu at bentref y Samariaid, nid yw gelyniaeth y bobl tuag at grŵp o Iddewon sy’n anelu am Jerwsalem yn syndod o gwbl. Nid yw penderfyniad Iesu i deithio trwy Samaria, yn lle ceisio ei osgoi, yn rhywbeth Iddewig i’w wneud yn y lle cyntaf. Yn y cyfamser, mae’r disgyblion, Iago ac Ioan, wedi gwylltio: ‘Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o'r nefoedd i'w dinistrio nhw?’ (adnod 54). Nid oes amheuaeth eu bod yn meddwl am frwydr epig y proffwyd Elias gyda phroffwydi Baal (1 Brenhinoedd 18). Mae’r pentrefwyr wedi gwrthod y Meseia, siawns eu bod yn haeddu cosb Duw, yn union fel yr addolwyr eilun paganaidd a heriodd Elias. Ond mae Iesu’n maddau ac yn symud ymlaen. Mae wedi dod, nid i ddinistrio, ond i achub.

Cawn y ddau yn yr Ysgrythur: barn a gras. Mae holl genhadaeth trugaredd Iesu wedi’i gosod yn erbyn y disgwyliad y bydd Duw yn dod â nid yn unig heddwch ond cyfiawnder, gan olygu y bydd anghyfiawnder yn cael ei farnu. Hyd nes y diwrnod hwnnw fe’n gelwir i gadw ar ochr gras, gan gofio nad yw dial yn eiddo i ni ond i Dduw.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, cadw fi rhag barnu eraill, gan gofio bod dy Fab wedi dod i achub y colledig.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible