Skip to main content

Y naill a’r llall: Luc 10.25–37 (25 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch am dy air. Helpa fi i wrando. Helpa fi i ymddiried. Helpa fi i weithredu.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 10.25–37

Mae Luc yn parhau â’i ‘thema Samariaidd’. Yn y bennod ddoe, nhw oedd y bobl ddrwg. Heddiw darllenwn am Samariad yn helpu Iddew mewn angen. Gall pobl ymddwyn yn wael fel pentrefwyr digroeso Samaria ym mhennod 9 ac mewn dull rhagorol fel y Samariad Trugarog ym mhennod 10. A all unrhyw beth da ddod o Samaria? Wel, mewn gwirionedd, fe all. Mae’n ymddangos bod yr Arglwydd yn dweud, peidiwch â phardduo’r rhai sy’n wahanol i ni. Yn union fel unrhyw fod dynol, gallent wneud da a drwg.

Yr ail ‘naill a’r llall’ yw diffiniad Iesu o ‘garu dy gymydog’. Nid yw elusen yn gorffen adref. Rydym i fod yn ‘gymydog da’ i’r rhai sy’n agos atom ac unrhyw un sy’n digwydd bod angen ein help, beth bynnag eu hethnigrwydd eu gweledigaeth.

Y trydydd ‘naill a’r llall’ yw cyfosodiad Luc o’r Samariad Trugarog ac Iesu yn ymweld â Mair a Martha. Yn y ddameg, mae rhai pobl yn rhy brysur yn meddwl am weddi a Chyfraith Duw i helpu cyd-ddyn. Gyda Mair a Martha ceir y gwrthwyneb. Mae Martha yn gofalu am anghenion Iesu ac nid yw’n cael unrhyw ddiolch, tra bod Mair, sydd ddim ond yn eistedd yno yn gwrando ar ei ddysgeidiaeth, sy’n cael canmoliaeth. A yw Luc yn awgrymu nad gweddi na chariad ymarferol mohono, ond y naill a’r llall?

Mae’r ‘naill a’r llall’ terfynol y sylwaf arno yn ymwneud â chwestiwn y dyn a arweiniodd at Iesu’n adrodd  dameg y Samariad Trugarog yn y lle cyntaf: ‘Beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?’. Mae’r Iesu’n cadarnhau ei fod yn ymwneud â charu Duw a’n cymydog. Nid yw’n fater o naill ai cael ffydd (caru Duw) neu wneud daioni (caru ein cymydog); unwaith eto mae’n ‘naill a’r llall’.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, helpa fi i wneud y naill a’r llall: dy garu di a charu eraill, oherwydd dy fod wedi ein caru ni gyntaf.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible