Skip to main content

Cariad Diwahân: Luc 8.1–3 (23 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch am dy air. Helpa fi i wrando. Helpa fi i ymddiried. Helpa fi i weithredu.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 8.1–3

Daeth pennod ddoe, Luc 7, i ben gyda Iesu yn dangos parch at wraig bechadurus. Mae pennod 8 yn dechrau lle mae pennod 7 yn gorffen. Wedi eu poenydio a’u rhoi ar yr ymylon gan afiechyd a thrallod ysbrydol, mae nifer o wragedd yn cael eu rhyddhau gan Iesu ac yn ymuno â’i griw o ddilynwyr gwrywaidd. Mae tair ohonynt – Mair, Joanna a Swsana – yn cael eu crybwyll wrth eu henwau. Maent wedi gadael yr hen drefn grefyddol batriarchaidd ac wedi dod yn rhan o fudiad newydd heb rwystrau rhywedd. 

Sylwch ar ba mor amlwg y mae gwragedd mewn mannau eraill yn Efengyl Luc: mae Mair yn derbyn neges gan angel am enedigaeth Mab Duw, tra bod Sachareias, darpar dad Ioan Fedyddiwr, yn cymryd amser i ddeall. Mae gwragedd yn ymddiried yn neges yr angel am y Crist atgyfodedig y mae’r disgyblion gwrywaidd yn ei ystyried ar y dechrau fel chwedl. Efallai bod dynion yn anwybyddu gweddon, ond nid yw Duw: yn Luc gwelwn Iesu’n atgyfodi mab menyw gweddw a chlywed dameg am weddw sy’n brwydro dros ei hawliau. Dim ond Luc sy’n sôn am Iesu’n dysgu Mair, mewn diwylliant a oedd yn disgwyl iddi aros yn y gegin gyda’i chwaer.

Mae pob un o’r uchod yn cyd-fynd â darlun ehangach: tosturi diderfyn Duw, wedi ei amlygu yn Iesu. Darllenwch ymlaen ym mhennod 8 ac fe welwch ef yn gyson yn sylwi ar bobl sy’n cael eu hanwybyddu gan y da a’r mawrion: crwydryn wedi’i feddiannu gan gythraul, gwraig aflan a phlentyn.

Mae’r efengyl yn newyddion da i bawb. Yn llythrennol.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, rho lygaid i mi dros y rhai sydd wedi derbyn ychydig o gariad ac nad ydynt yn ymwybodol o dy gariad di.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible