No themes applied yet
Iesuʼn anfon allan y deuddeg
(Mathew 10:5-15; Marc 6:7-13)
1Galwodd Iesu y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi nerth ac awdurdod iddyn nhw fwrw allan gythreuliaid a iacháu pobl. 2Yna anfonodd nhw allan i gyhoeddi bod Duw yn teyrnasu, ac i iacháu pobl. 3Dwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd gyda chi – dim ffon, dim bag teithio, dim bwyd, dim arian, dim hyd yn oed dillad sbâr. 4Pan gewch groeso yng nghartre rhywun, arhoswch yno nes byddwch chiʼn gadael y dre. 5Os na chewch chi groeso yn rhywle, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael y dref honno. Bydd hynnyʼn arwydd o farn Duw arnyn nhw!” 6Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref iʼr llall gan gyhoeddiʼr newyddion da a iacháu pobl ym mhobman.
Herod yn poeni
(Mathew 14:1-12; Marc 6:14-29)
7Clywodd y llywodraethwr Herod9:7 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr. am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw. 8Roedd eraill yn dweud maiʼr proffwyd Elias9:8 Elias: Roedd yr Iddewon yn disgwyl iʼr proffwyd Elias ddod i baratoiʼr ffordd ar gyfer y Meseia. oedd wedi dod, ac eraill etoʼn meddwl mai un o broffwydiʼr gorffennol oedd wedi dod yn ôl yn fyw. 9“Torrais ben Ioan i ffwrdd,” meddai Herod, “felly, pwy ydy hwn dw iʼn clywed y pethau yma amdano?” Roedd ganddo eisiau gweld Iesu.
Iesuʼn bwydoʼr pum mil
(Mathew 14:13-21; Marc 6:30-44; Ioan 6:1-14)
10Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhwʼn dweud wrth Iesu beth roedden nhw wediʼi wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennauʼu hunain, i dref oʼr enw Bethsaida. 11Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, aʼi ddilyn yno. Dyma Iesuʼn eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl.
12Yn hwyr yn y pʼnawn dymaʼr deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd iʼr pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Maeʼr lle yma yn anial.”
13Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth iʼw fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach9:13 torth fach: Torth fach gron fflat, maeʼn debyg. a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt tiʼn disgwyl i ni fynd i brynu bwyd iʼr bobl yma i gyd?” 14(Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesuʼn dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.” 15Dymaʼr disgyblion yn gwneud hynny, ac eisteddodd pawb. 16Wedyn dyma Iesuʼn cymryd y pum torth aʼr ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara aʼi roi iʼw ddisgyblion iʼw rannu iʼr bobl. 17Cafodd pawb ddigon iʼw fwyta, a dyma nhwʼn casglu deuddeg llond basged o dameidiau oedd dros ben.
Datganiad Pedr
(Mathew 16:13-28; Marc 8:27–9:1)
18Un tro pan oedd Iesu wedi bod yn gweddïo ar ei ben ei hun, aeth at ei ddisgyblion a gofyn iddyn nhw, “Pwy maeʼr bobl yn ei ddweud ydw i?”
19Dyma nhwʼn ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill etoʼn dweud fod un oʼr proffwydi ers talwm wedi dod yn ôl yn fyw.”
20“Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chiʼn ddweud ydw i?”
Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”
21Ond dyma Iesuʼn pwysoʼn drwm arnyn nhw i beidio dweud wrth neb. 22Dwedodd wrthyn nhw, “Maeʼn rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Bydd yr arweinwyr, y prif offeiriaid aʼr arbenigwyr yn y Gyfraith yn fy ngwrthod i. Bydda iʼn cael fy lladd, ond ynaʼn dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.”
23Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi. 24Bydd y rhai syʼn ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colliʼr bywyd go iawn, ond y rhai syʼn barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn. 25Beth ydyʼr pwynt o gael popeth sydd gan y byd iʼw gynnig, a cholli eich hunan? 26Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw iʼn ddweud, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda iʼn dod yn ôl yn fy holl ysblander, sef ysblander y Tad aʼi angylion sanctaidd. 27Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi syʼn sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duwʼn teyrnasu.”
Y Gweddnewidiad
(Mathew 17:1-8; Marc 9:2-8)
28Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. 29Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar. 30A dyma nhwʼn gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu. 31Roedd hiʼn olygfa anhygoel,9:31 Roedd hiʼn olygfa anhygoel: Groeg, “wedi dod iʼr golwg mewn ysblander”. ac roedden nhwʼn siarad am y ffordd roedd Iesuʼn mynd i adael y byd,9:31 y ffordd roedd Iesuʼn mynd i adael y byd: Groeg, “ei exodus”, sef yma, y ffordd roedd eʼn mynd i achub pobl drwy ei farwolaeth. hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem. 32Roedd Pedr aʼr lleill wedi bod yn teimloʼn gysglyd iawn, ond dyma nhwʼn deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu aʼr ddau ddyn yn sefyll gydag e. 33Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, maeʼn dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad wir beth roedd yn ei ddweud!)
34Tra oedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau oʼu cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn iʼr cwmwl. 35A dyma lais yn dod oʼr cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn – yr un dw i wediʼi ddewis. Gwrandwch arno!” 36Ar ôl iʼr llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dymaʼr lleill yn cadwʼn dawel am y peth – ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wediʼi weld.
Iacháu bachgen oedd ag ysbryd drwg ynddo
(Mathew 17:14-18; Marc 9:14-27)
37Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr oʼr mynydd, daeth tyrfa fawr iʼw gyfarfod. 38Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw iʼn crefu arnat ti i edrych ar fy mab i – dyma fy unig blentyn i! 39Mae yna ysbryd yn gafael ynddoʼn aml, ac yn sydyn maeʼn sgrechian; wedyn maeʼr ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydyʼr ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Maeʼn ei ddinistrio! 40Rôn iʼn crefu ar dy ddisgyblion iʼw fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”
41“Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw iʼn mynd i aros gyda chi aʼch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.”
42Wrth iʼr bachgen ddod ato dymaʼr cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesuʼn cerydduʼr ysbryd drwg, iacháuʼr bachgen aʼi roi yn ôl iʼw dad. 43Roedd pawb wediʼu syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith.
Iesuʼn siarad am ei farwolaeth eto
(Mathew 17:22,23; Marc 9:30-32)
Tra oedd pawb wrthiʼn rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesuʼn eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion, 44“Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.” 45Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth roedd eʼn sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhwʼn methuʼn lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth.
Pwy fydd y pwysica?
(Mathew 18:1-5; Marc 9:33-37,38-40)
46Dymaʼr disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica. 47Roedd Iesuʼn gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl. 48Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag syʼn rhoi croeso iʼr plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag syʼn rhoi croeso i mi yn croesawuʼr Un sydd wedi fy anfon i. Maeʼr un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.”
49“Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma niʼn dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un oʼn criw ni.”
50“Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae oʼch plaid chi.”
Pobl Samaria yn ei wrthwynebu
51Dyma Iesuʼn cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl iʼr nefoedd. 52Anfonodd negeswyr oʼi flaen, a dyma nhwʼn mynd i un o bentrefi Samaria i baratoi ar ei gyfer; 53ond dymaʼr bobl yno yn gwrthod rhoi croeso iddo am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem. 54Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhwʼn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr oʼr nefoedd iʼw dinistrio nhw?”9:54 cyfeiriad at 2 Brenhinoedd 1:9-16 55A dyma Iesuʼn troi atyn nhw aʼu ceryddu nhw am ddweud y fath beth. 56A dyma nhwʼn mynd yn eu blaenau i bentref arall.
Y gost o ddilyn Iesu
(Mathew 8:19-22)
57Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw iʼn fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi diʼn mynd!”
58Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”
59Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.”
Ond dymaʼr dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”
60Ond ateb Iesu oedd, “Gad iʼr rhai syʼn farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.”
61Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio âʼm teulu gyntaf.”
62Atebodd Iesu, “Dydyʼr sawl syʼn gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethuʼr Duw syʼn teyrnasu.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015