No themes applied yet
Iesuʼn anfon y saith deg dau allan
1Ar ôl hyn dyma Iesuʼn penodi saith deg dau10:1 saith deg dau: Mae rhai llawysgrifau yn dweud saith deg. Roedd traddodiad Iddewig yn dysgu fod saith deg o wledydd yn y byd. Ond maeʼr LXX, sef y cyfieithiad Groeg oʼr ysgrifau sanctaidd Iddewig yn rhoi “saith deg dau” yn lle “saith deg”. Drwy anfon y nifer yma o bobl allan roedd Iesu yn awgrymu fod ei neges ar gyfer pawb yn y byd i gyd. o rai eraill aʼu hanfon oʼi flaen bob yn ddau iʼr lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw. 2Meddai wrthyn nhw, “Maeʼr cynhaeaf mor fawr, aʼr gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr iʼw feysydd. 3Ewch! Dw iʼn eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid. 4Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd.
5“Pan ewch i mewn i gartref rhywun, gofynnwch i Dduw fendithioʼr cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall. 6Os oes rhywun yna syʼn agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi. 7Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ iʼr llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag syʼn cael ei roi oʼch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.
8“Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag syʼn cael ei roi oʼch blaen chi. 9Ewch ati i iacháu y rhai syʼn glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod10:9 ar fin dod: Neu “wedi dod”. i deyrnasu.’ 10Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan iʼw strydoedd a dweud, 11‘Dŷn niʼn sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’ 12Wir i chi, bydd hiʼn well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno!
Gwaeʼr trefi syʼn gwrthod troi at Dduw
(Mathew 11:20-24)
13“Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petaiʼr gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddaiʼr bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, drwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau. 14Bydd hiʼn well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi! 15A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt tiʼn meddwl y byddi diʼn cael dy anrhydeddu? Na, byddi diʼn cael dy fwrw i lawr iʼr dyfnder tywyll!10:15 gw. Eseia 14:13-15
16“Mae pwy bynnag syʼn gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag syʼn eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag syʼn fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.”
17Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhwʼn dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.”
18Atebodd Iesu, “Gwelais Satan yn syrthio fel mellten oʼr awyr! 19Dw i wedi rhoiʼr awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi! 20Ond peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wediʼu hysgrifennu yn y nefoedd.”
Iesu yn diolch i Dduw, ei dad
(Mathew 11:25-27; 13:16,17)
21Bryd hynny roedd Iesuʼn fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân, ac meddai, “Fy Nhad. Arglwydd y nefoedd aʼr ddaear. Diolch i ti am guddioʼr pethau yma oddi wrth y bobl syʼn meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, aʼu dangos iʼr rhai syʼn agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna syʼn dy blesio di.
22“Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, aʼr rhai hynny maeʼr Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.”
23Pan oedden nhw ar eu pennauʼu hunain trodd at ei ddisgyblion a dweud, “Dych chiʼn cael y fath fraint o weld beth syʼn digwydd! 24Dw iʼn dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chiʼn ei weld a chlywed beth dych chiʼn ei glywed, ond chawson nhw ddim.”
Stori y Samariad caredig
25Un tro safodd un oʼr arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
26Atebodd Iesu, “Beth mae Cyfraith Moses yn ei ddweud? Sut wyt tiʼn ei deall?”
27Meddaiʼr dyn: “‘Rwyt i garuʼr Arglwydd dy Dduw âʼth holl galon, ac âʼth holl enaid, âʼth holl nerth ac âʼth holl feddwl,’ a ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt tiʼn dy garu dy hun.’”10:27 a Deuteronomium 6:5; b Lefiticus 19:18
28“Rwyt tiʼn iawn!” meddai Iesu. “Gwna hynny a chei di fywyd.”10:28 gw. Lefiticus 18:5
29Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?”
30Dyma sut atebodd Iesu: “Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho, a dyma ladron yn ymosod arno. Dyma nhwʼn dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc. Cafodd ei adael bron yn farw ar ochr y ffordd. 31Dyma offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen. 32A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesiʼr ffordd a mynd yn ei flaen. 33Ond wedyn dyma Samariad yn dod iʼr fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd eʼr dyn, roedd yn teimlo trueni drosto. 34Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, aʼu trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn aʼi roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno. 35Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. ‘Gofala amdano,’ meddai wrtho, ‘Ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda iʼn mynd heibio.’
36“Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un oʼr tri fuʼn gymydog iʼr dyn wnaeth y lladron ymosod arno?”
37Dymaʼr arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.”
A dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwnaʼr un fath.”
Yng nghartref Martha a Mair
38Wrth i Iesu deithio yn ei flaen i Jerwsalem gydaʼi ddisgyblion, daeth i bentref lle roedd gwraig oʼr enw Martha yn byw. A dyma hiʼn rhoi croeso iddo iʼw chartref.10:38,39 gw. Ioan 11:1 39Roedd gan Martha chwaer oʼr enw Mair, ac eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd eʼn ei ddweud. 40Ond roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd, a daeth at Iesu a gofyn iddo, “Arglwydd, wyt ti ddim yn poeni bod fy chwaer wedi gadael i mi wneud y gwaith i gyd? Dwed wrthi am ddod i helpu!”
41“Martha annwyl,” meddaiʼr Arglwydd wrthi, “rwyt tiʼn poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd, 42ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015