Skip to main content

Celwyddau a llofruddiaeth: 2 Brenhinoedd 8.7–15 (26 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 8.7–15

Nid yw llyfrau Brenhinoedd i’r gwangalon. Maent yn delio â phobl a fyddai’n gwneud unrhyw beth i ennill pŵer, gan gynnwys brad a llofruddiaeth. Yma mae brenin Syria, Ben-hadad, yn ceisio sicrwydd gan broffwyd Israel, Eliseus, y bydd yn gwella ar ôl ei salwch. Daw ei negesydd, Hasael, yn llofrudd iddo.

Mae deialog Hasael ag Eliseus yn ddiddorol. Mae’n ymddangos bod Eliseus yn dweud wrtho am ddweud celwydd am obeithion Ben-hadad o wella (adnod 10). Ond efallai bod rhywfaint o feddwl cywasgedig yma: yn y ffordd arferol o bethau bydd yn gwella, ond mae Duw wedi dweud wrth Eliseus fod Hasael yn mynd i gyflawni’r pechod o lofruddiaeth. Fodd bynnag, rhoddir rhyddid i Hasael ddewis.

Pan ofynnwyd iddo pam mae Eliseus yn ‘wylo’, mae’r proffwyd yn rhestru’r pethau ofnadwy y bydd Hasael yn eu gwneud i Israel (adnod 12). Mae ymateb Hasael yn ddadlennol. Nid yw’n cael ei arswydo ganddynt; mae’n llawn cyffro. Mae drygioni yn dystiolaeth o bŵer. Mae’r ‘neb’ (adnod 13) yn mygu ei frenin ac yn cychwyn ar yrfa o ddrygioni.

Mae straeon fel hyn yn ein poeni oherwydd eu bod yn datgelu beth mae bodau dynol yn gallu gwneud. Mae’n ofnadwy o hawdd i bobl ddod yn ddifater tuag at ddioddefaint eraill, a’u gweld fel modd i gyflawni eu dibenion. Fel yr ysgrifennodd Terry Pratchett, 'Sin ... is when you treat people like things.' Ond mae pob un ohonom yn unigolyn, wedi ein gwneud ar ddelw Duw, yn cael ein caru’n anfeidrol. Pan welwn bobl fel gwrthrychau, yno i gyflawni ein hanghenion ein hunain, efallai fel tystiolaeth o’n dylanwad neu awdurdod, rydym yn llwyr fethu â bod yr hyn y mae Duw eisiau inni fod.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weld y rhai rydw i’n cyfarfod â nhw fel rhai sy’n dwyn dy ddelwedd, wedi eu hadnabod a’u caru gennyt ti. Helpa fi i beidio byth anghofio nad ydynt yno imi eu defnyddio na’u cam-drin, ond eu bod nhw’n unigolion sy’n werthfawr ac yn cael eu caru gennyt ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible