Skip to main content

Sut y gellir cael heddwch?: 2 Brenhinoedd 9.1–37 (27 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 9.1–37

Mae’r stori hon yn mynd yn ei blaen ar gyflymder eithafol, fel gyrru Jehu (adnod 20). Yn amlwg mae swyddogion byddin Israel wedi blino ar y Brenin Joram, efallai oherwydd ei gynghrair aflwyddiannus gyda’r Brenin Jwda, Ahaseia, yn erbyn Syria (8.28-29). Mae Jehu yn ddidostur, gan lofruddio’r ddau frenin a mam Joram, Jesebel, sy’n wynebu’r diwedd gyda dewrder pur (adnodau 30-31).

Ymddengys fod y proffwyd y mae Eliseus yn ei anfon i eneinio Jehu yn frenin yn cryfhau ei neges yn sylweddol, gan ddweud wrtho am ladd Ahab a’i holl ddisgynyddion (adnodau 7-8). Nid oes unrhyw reswm i dybio ei fod yn dweud celwydd, fodd bynnag: mae Jehu yn cael ei gyflwyno fel offeryn Duw, dan ddial am droseddau tŷ Ahab.

Nid ydym yn troi at stori fel hon am eiriau o ysbrydoliaeth a chysur; nid dyna’r math o stori ydyw. Ond yng nghanol y tywallt gwaed a’r brad – sy’n gwaethygu yn y bennod nesaf – mae yna un adnod sy’n sefyll allan. Mae’r Brenin Joram, sy’n anobeithio, yn gofyn i Jehu a yw’n dod mewn heddwch. Dyma Joram yn gofyn i Jehu, “Ydy popeth yn iawn, Jehu?” Ond dyma Jehu yn ateb, “Fydd pethau byth yn iawn tra mae dy fam di, Jesebel, yn gwthio pobl i addoli eilunod a dewino! (adnod 22).

Mae’r datganiad, ‘Fydd pethau byth yn iawn’ yn un anghyfforddus. Rydym yn hoffi ceisio consensws – sefyllfa ble mae pob un ar ei ennill a ble mae pawb yn hapus yn y diwedd. Weithiau, serch hynny, ni all fod unrhyw gyfaddawd; rhaid tynnu’r drwg o’r gwraidd. Mae gwrthdaro, dienyddiadau a brwydrau pŵer yr Hen Destament yn aml yn dramateiddio mewn trais a marwolaeth y brwydrau y mae’n rhaid i ni eu hymladd heddiw.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i wybod pryd i gyfaddawdu, a phryd i sefyll yn gadarn. Helpa fi i gydnabod drwg go iawn, ac i ddal ar yr hyn sy’n dda.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible