Skip to main content

Caru oherwydd i ni gael ein caru: Deuteronomium 10.12–22 (5 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Deuteronomium 10

Gall rhai rhannau o Deuteronomium fod yn anodd, os yr ydym yn onest. Mae eraill, fel yr adnodau hyn, yn ysbrydoledig. ‘Beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid’ (adnodau 12-13). Dewisodd Duw’r Israeliad allan o gariad, cariad a oedd i’w estyn i Genhedloedd yn ogystal mewn cyfamod newydd drwy Iesu Grist (Effesiaid 2.11–22). Fel dywed Moses: ‘Fe ydy'r un i'w foli. Fe ydy'ch Duw chi, yr un dych chi wedi'i weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi’ (adnod 21).

Yr hyn sy’n ddiddorol yma yw sut mae cariad Duw yn arbennig ond ddim yn ddethol. Mae Ef wedi dewis Israel, ond mae ei galon ddigon mawr i garu’r byd i gyd. Yn nghyd-destun y cyfnod, pan oedd duwiau llwythol yn gysylltiedig â phobl benodol ac eithrio pawb arall, roedd hyn yn syfrdanol. Mae Duw Israel yn ‘caru'r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw’ (adnod 18). Hefyd mae yno ddisgwyliad moesol ar yr Hebreaid i wneud yr un peth, oherwydd yr oedden nhw’n fewnfudwyr hefyd, yn yr Aifft (adnod 19) – cyffelybiaeth a welir yn Effesiaid. Roedd Cristnogion o’r Cenhedloedd, hefyd yn ddieithriaid a ddenwyd i deulu Duw.

Felly i gredinwyr, mae cariad tuag at bobl o’r tu allan  yn rhan o fod yn Gristion. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr hyn mae Duw wedi’i wneud i ni, ac mae’r diolchgarwch hwnnw yn gorlifo i’r ffordd rydym yn trin pobl eraill.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am fy ngwneud i yn rhan o dy deulu. Helpa fi i weld eraill hefyd fel dy blant, ac i’w caru fel rydw i wedi cael fy ngharu.


sgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible