Skip to main content

Gras i bobl ystyfnig: Deuteronomium 9.1–6 (4 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Deuteronomium 9

Gall fod yn anodd iawn i ni ddarllen rhai straeon yr Hen Destament am drais a gorchfygiad gyda’u harlliw o hil-laddiad a glanhau ethnig. Mae angen i ni atgoffa ein hunain yn gyson bod Deuteronomium wedi cael ei ysgrifennu amser maith yn ôl, ac i edrych am y gwirioneddau parhaus y mae Duw yn siarad â ni drwyddo.

Yn y bennod hon mae Moses yn pwysleisio pan ddisodlwyd y Cananeaid gan yr Israeliad, nid yn cymryd y tir na dangos eu grym corfforol yn unig oeddent: roeddent yn cael eu barnu  am eu pechodau. Yn ogystal, nid oedd yr Israeliaid yn ddi-fai chwaith: “Ond ar ôl i'r ARGLWYDD eu gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, peidiwch â meddwl am funud ei fod e'n rhoi'r tir i chi am eich bod chi'n bobl mor dda! Na, mae e'n gyrru'r bobloedd yma allan o'ch blaenau chi am eu bod nhw'n gwneud pethau mor ddrwg’ (adnod 4).

Felly nid yw hyn yn golygu bod yr Israeliad yn dda, ond bod yr ochr arall yn waeth. Yn y bennod hon mae Moses yn rhestru enghreifftiau o bechodau a methiannau Israel, yn cynnwys addoli’r Llo Aur – nid oes ganddynt unrhyw beth i ymfalchïo ynddo.

Felly’r neges yma yw, pan maent ar drothwy buddugoliaeth – diwedd eu holl grwydro ac ar gyrion Canaan o’r diwedd – ni ddylen nhw fod yn falch neu’n hunanfodlon. Pechaduriaid ydynt a’u hunig obaith yw gras Duw. Gelwir credinwyr heddiw i’r un gostyngeiddrwydd. Nid oes gennym ddim i ymfalchïo ynddo chwaith; ond mae gennym lawer i fod yn ddiolchgar amdano. 

Gweddi

Gweddi

Duw, cadwa fi’n ostyngedig. Helpa imi gofio fod popeth sydd gen i yn dod gen ti. Pan mae pethau’n mynd yn dda, gad imi beidio anghofio bod y cyfan yn ddyledus iti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible