Skip to main content

Cofiwch yr hyn y mae Duw wedi’i wneud: Deuteronomium 11.1–7, 16–21 (6 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Deuteronomium 11

Mae Duw wedi achub y bobl o’r Aifft a’u tywys drwy’r anialwch i Wlad yr Addewid, ond mae yna broblem; ni fyddai gan ddisgynyddion yr Israeliad brofiad uniongyrchol o waith achubol Duw (adnod 2). Byddai’n rhaid iddynt ymddiried yn y straeon yn unig (adnod 19).

Felly mae Moses yn dweud wrthynt, yn gyntaf, i gofio beth mae Duw wedi ei wneud ar eu cyfer ac i fod yn ddiolchgar amdano. Ond yn ail, maent i drosglwyddo eu gwybodaeth i’w plant, felly bydd eu plant yn cerdded yn ei ffyrdd hefyd.

Gelwir ar gredinwyr i drosglwyddo eu ffydd i’w plant. Ni allwn fod yn sicr, wrth gwrs, y byddant yn dod yn ddisgyblion Cristnogol; dyna ddewis y mae’n rhaid iddynt ei wneud eu hunain. Bydd rhieni Cristnogol doeth yn parchu a’u hanrhydeddu pa bynnag lwybr y byddent yn ddewis. Mae gwaith sylfaenol ffydd, serch hynny, yn aml yn cael ei sefydlu mewn cartref cariadus.

Ond mae yna wers ehangach yma hefyd. Ar ôl iddo atgyfodi, fe ymddangosodd Iesu i Tomos, oedd wedi ei amau. Pan mae’n ei weld, dywedai, ‘Fy Arglwydd a'm Duw!’ ‘Ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,’ meddai Iesu wrtho. ‘Mae'r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio'n fawr.’ (Ioan 20.28-29). Cyfeirir y geiriau yma atom ni: nid ydym wedi gweld y Crist atgyfodedig, yn union fel oedd plant yr Israeliad heb weld y Môr Coch, ond rydym wedi ein bendithio oherwydd ein bod yn credu. Mae gan bob cenhedlaeth y dasg o adrodd y straeon eto, mewn ffyrdd sy’n eu gwneud yn gredadwy ac yn ystyrlon. 

 

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi byth i anghofio dy drugareddau wrthyf. Helpa fi i ddweud dy stori wrth eraill, fel y byddent hefyd yn deall dy ddaioni a’th ras.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible