Skip to main content

Byddwch yn ddoeth: Pregethwr 7.5–12 (Ebrill 19, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Pregethwr 7

Mae Pregethwr yn un o lyfrau’r Beibl a elwir yn llyfrau ‘Doethineb’ - mae Diarhebion yn un arall. Yn yr un modd ag y mae Diarhebion 4.5 yn ein gorfodi i ‘gael doethineb’, mae Pregethwr 7 yn sôn am werth doethineb. Mae doethineb ‘fel etifeddiaeth, yn beth da ac yn fanteisiol i bob person byw’ (adnod 11). Mae'r awdur yn siarad am fuddion tymor hir doethineb - gall ein gwarchod pan fyddwn yn wynebu problemau ac mae'n ein grymuso. Fodd bynnag, mewn bywyd mae yna lawer o bethau sy'n werthfawr yn y tymor hir y mae'n rhaid i ni aberthu pleserau tymor byr i'w hennill. Mae'r awdur yn cymharu profiadau pleserus â phrofiadau anodd a all efallai ddysgu mwy inni a thyfu ein doethineb. Er enghraifft, dywed ei bod yn ‘well gwrando ar y doeth yn rhoi cerydd nag ar ffyliaid yn canu eich clodydd’. Er ei bod yn anoddach gwrando ar gerydd, bydd yn y pen draw yn ein gwneud yn ddoethach. Yn yr un modd, er ei bod yn anodd bod yn amyneddgar, mae'r awdur yn ei gysylltu â doethineb, a dicter â ffolineb.

Er bod yr awdur mewn rhannau eraill o Pregethwr yn dweud bod doethineb yn dod â thristwch, mae yma yn honni ei bod yn well bod yn drist ac yn ddoeth na ffôl a chwerthin, oherwydd bydd y person doeth yn gwybod beth sy'n dod â chyflawniad tymor hir hyd yn oed os yw'n ddiflas yn y presennol.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Arglwydd, helpa fi i dyfu mewn doethineb a derbyn y ffyrdd rwyt yn eu defnyddio i fy nysgu i ddod yn ddoethach.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens sy’n rhan o dîm cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible