No themes applied yet
Doethineb i fyw
1“Mae enw da yn well na phersawr drud,”
aʼr diwrnod dych chiʼn marw yn well na dydd eich geni.
2Maeʼn well mynd i gartref lle mae pawb yn galaru
nag i dŷ lle mae pawb yn cael parti.
Marw fydd y diwedd i bawb,
a dylai pobl ystyried hynny.
3Mae tristwch yn well na chwerthin –
er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles iʼr galon.
4Maeʼr doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth,
ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri.
5Maeʼn well gwrando ar y doeth yn rhoi cerydd
nag ar ffyliaid yn canu eich clodydd.
6Oherwydd mae sŵn ffŵl yn chwerthin
fel brigau yn clecian wrth losgi dan grochan.
Maeʼn ddiystyr!
7Mae gormesuʼn gwneud iʼr doeth edrych fel ffŵl,
ac mae breib yn llygru barn pobl.
8“Mae gorffen rhywbeth yn well naʼi ddechrau,”
ac “Mae amynedd yn well na balchder.”
9Paid gwylltioʼn rhy sydyn;
gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.
10Paid gofyn, “Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?”
Dydyʼr rhai doeth ddim yn meddwl felly.
11Mae doethineb, fel etifeddiaeth, yn beth da
ac yn fanteisiol i bob person byw,
12oherwydd mae doethineb, fel arian,
yn gysgod iʼn cadwʼn saff.
Ond mantais doethineb ydy hyn:
mae doethineb yn cadwʼr doeth yn fyw.
13Ystyriwch bopeth mae Duw wediʼi wneud! Pwy syʼn gallu sythu beth mae e wediʼi blygu? 14Felly mwynhewch fywyd pan mae pethauʼn mynd yn dda; ond pan mae popeth yn mynd oʼi le, cofiwch hyn: Duw sydd tu ôl iʼr naill aʼr llall, felly all neb wybod yn iawn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Cwestiynau anodd bywyd
15Yn ystod fy mywyd llawn penbleth, dw i wedi gweld y cwbl: rhywun syʼn ffyddlon i Dduw yn marwʼn ifanc er ei holl ddaioni, a rhywun drwg yn cael bywʼn hir er gwaethaʼi holl ddrygioni. 16Paid bod yn rhy siŵr ohonot ti dy hun, dy fod yn berson cyfiawn a doeth, rhag i ti gael dy siomi! 17A phaid rhoi dy hun yn llwyr i ddrygioni ac ymddwyn fel ffŵl. Pam ddylet ti farw cyn dy amser? 18Y peth gorau iʼw wneud ydy dal gafael yn y naill gyngor aʼr llall, oherwydd maeʼr person syʼn parchu Duw yn osgoiʼr ddau eithaf.
19“Mae doethineb yn rhoi mwy o rym i rywun
na deg o lywodraethwyr mewn dinas.”
20“Does neb drwyʼr byd i gyd mor gyfiawn
nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.”
21Hefyd, “Paid cymryd sylw o bopeth syʼn cael ei ddweud,
rhag i ti glywed dy was yn dweud pethau drwg amdanat ti!”
22Oherwydd maeʼn dda i ti gofio dy fod ti dy hun
wedi dweud pethau drwg am bobl eraill lawer gwaith.
23Ceisiais ddefnyddio fy noethineb i ddeall y cwbl, ond methu cael atebion. 24Maeʼn anodd deall popeth syʼn digwydd – maeʼr pethau yma yn llawer rhy ddwfn i unrhyw un ddarganfod yr atebion i gyd.
Bywʼn ddoeth
25Dyma fiʼn troi fy sylw i astudio ac ymchwilioʼn fanwl i geisio deall beth ydy doethineb, a pha mor dwp ydy drygioni, ac mor wallgof ydy ffolineb. 26Dw i wedi darganfod mai peth chwerw iawn ydyʼr wraig7:26 Yn Diarhebion 5–9 mae “gwraig” yn ddarlun o ddoethineb a ffolineb. Maeʼn bosib fod “gwraig” yma hefyd yn ddarlun o ffolineb. sydd fel magl heliwr, yn rhwydo dyn, aʼi breichiau amdano fel cadwyni. Maeʼr dyn syʼn plesio Duw yn llwyddo i ddianc oʼi gafael, ond maeʼr un syʼn pechu yn cael ei ddal ganddi. 27Dymaʼr casgliad dw i wedi dod iddo, meddaiʼr Athro – wrth geisio deall y cwbl o dipyn i beth: 28(Dw i wedi bod yn ymchwilio iddoʼn gyson, ond heb eto gael ateb digonol, fel maen nhwʼn dweud, “Cefais ddim ond un dyn mewn mil, ond dw i ddim wedi darganfod gwraig yn eu plith nhw o gwbl.”) 29Yr un casgliad dw i wedi dod iddo ydy hwn: gwnaeth Duw y ddynoliaeth yn gyfiawn, ond maen nhw i gyd wedi dilyn pob math o syniadau.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015