No themes applied yet
1Pwy syʼn ddoeth go iawn? Pwy syʼn gallu esbonio pethau?
“Mae doethineb rhywun yn gwneud iʼw wyneb oleuo,
Ac maeʼr olwg galed ar ei wyneb yn diflannu.”
Ufudd-dod iʼr Brenin
2Dw iʼn dweud,
“Gwranda ar orchymyn y brenin –
gan dy fod wedi tyngu llw o flaen Duw i wneud hynny.”
3Paid bod ar frys i fynd oʼi bresenoldeb;
a phaid oedi pan fydd pethauʼn anghysurus.
Gall y brenin wneud unrhyw beth maeʼn ei ddewis.
4Mae gan y brenin awdurdod llwyr,
a does gan neb hawl i ofyn iddo, “Beth wyt tiʼn wneud?”
5Fydd yr un syʼn ufudd iddo ddim yn cael ei hun i drafferthion.
Maeʼr person doeth yn deall fod amser a threfn i bopeth.
6Mae amser penodol a threfn i bopeth.
Ond maeʼr perygl o ryw drasiediʼn digwydd
yn pwysoʼn drwm ar bobl.
7Does neb yn gwybod beth syʼn mynd i ddigwydd,
hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy syʼn gallu dweud?
8A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan maeʼn marw; does neb yn gallu gohirioʼr foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, aʼr un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg.
9Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth syʼn digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.
Esiampl ddrwg
10Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhwʼn arfer mynd a dod oʼr lle sanctaidd, tra oedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio.8:10 Mae ystyr yr Hebraeg yn yr adnod yma yn ansicr. Beth ydyʼr pwynt? 11Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg. 12Mae pechadur yn cyflawniʼr un drwg ganwaith, ac yn dal i gael bywʼn hir. Ond dw iʼn gwybod yn iawn y bydd hiʼn well ar y rhai syʼn parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhwʼn dangos parch ato. 13Fydd hi ddim yn dda ar y rhai syʼn gwneud pethau drwg, oherwydd, fel cysgod, fyddan nhw ddim yn aros yn hir, am nad ydyn nhwʼn parchu Duw. 14Ond wedyn, dyma beth syʼn gwneud dim sens yn y byd yma: mae rhai pobl sydd wedi byw yn ufudd i Dduw yn cael eu trin fel petaen nhw wedi gwneud drwg; ac mae rhai pobl ddrwg syʼn cael eu trin fel petaen nhw wedi byw yn iawn! Fel dw iʼn dweud, dydyʼr peth yn gwneud dim sens!
Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd
15Felly dw iʼn argymell y dylid mwynhau bywyd. Y peth gorau all rhywun ei wneud ar y ddaear yma ydy bwyta, yfed a mwynhau ei hun. Maeʼr pleserau yma yn rhywbeth mae Duw yn eu rhoi iddo ochr yn ochr âʼi holl waith caled yn ystod ei fywyd.
Sylwadau ar fywyd
16Es i ati o ddifrif i geisio deall beth ydy doethineb ac edrych yn fanwl ar bopeth syʼn digwydd yn y byd – hyd yn oed mynd heb gwsg nos a dydd – 17ac ystyried popeth mae Duw wediʼi wneud. Y gwir ydy does neb yn deall popeth syʼn digwydd yn y byd. Sdim ots pa mor galed mae pobl yn trio, does neb yn deall go iawn. Hyd yn oed os oes rhai pobl glyfar yn honni eu bod nhwʼn gwybod, dŷn nhw ddim wir yn deall.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015