No themes applied yet
Mwy o sylwadau ar fywyd
1Rhywbeth ofnadwy arall dw i wedi sylwi arno yn y byd, ac maeʼn effeithio ar lot o bobl: 2Mae Duw weithiauʼn rhoi cymaint o arian, eiddo a chyfoeth i berson nes bod ganddo bopeth mae arno ei angen aʼi eisiau. Ond wedyn dydy Duw ddim yn rhoiʼr gallu iddo fwynhauʼr cwbl! Yn lle hynny mae rhywun arall yn cael ei fwynhau. Does dim sens iʼr peth! Maeʼn ofnadwy!
3Hyd yn oed petai rhywun yn cael cant o blant ac yn byw i oedran mawr – sdim ots faint o flynyddoedd! Gallai fyw am byth!6:3 Gallai … byth! Hebraeg, “os nad ydy eʼn cael ei gladdu”.6:3 Salm 49:9; 89:48 Os nad ydy eʼn cael mwynhau ei lwyddiant, mae babi syʼn cael ei eniʼn farw yn well ei fyd na rhywun felly! 4Ac i beth mae hwnnwʼn cael ei eni? Maeʼn ddiystyr! Maeʼn diflannu iʼr tywyllwch, a does neb yn gwybod ei enw na dim arall amdano. 5Dydy e ddim wedi profi gwres yr haul. Ond o leia maeʼn cael gorffwys, fellyʼn well ei fyd naʼr person arall!
6Neu cymrwch fod rhywun yn cael byw am ddwy fil o flynyddoedd ond heb brofi unrhyw lwyddiant materol. Onid iʼr un lle maen nhw i gyd yn mynd yn y pen draw?
7“Mae pawb yn gweithioʼn galed i gael bwyd iʼw fwyta,
ond dydyʼr stumog byth yn fodlon.”
8Felly, pa fantais sydd gan rhywun doeth dros y ffŵl? Pa fantais sydd gan rywun tlawd syʼn gwybod sut i fyw mewn perthynas ag eraill?
9“Mae bod yn fodlon gydaʼr hyn sydd gynnoch chi
yn well na breuddwydio am gael mwy o hyd.”
Dydyʼr pethau yma i gyd yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoliʼr gwynt.
10Mae popeth syʼn digwydd wediʼi drefnu ymlaen llaw. Mae pobl yn gwybod mai creaduriaid dynol ydyn nhw. All pobl ddim dadlau gyda Duw am eu tynged, gan ei fod eʼn llawer cryfach. 11Dydy dadlau diddiwedd yn helpu dim. Beth syʼn cael ei ennill? 12Pwy syʼn gwybod beth ydyʼr peth gorau i rywun ei wneud gydaʼi fywyd? Dim ond am gyfnod byr maeʼn cael byw, ac mae ei fywyd llawn cwestiynau yn mynd heibio mewn chwinciad. Oes yna unrhyw un yn rhywle syʼn gallu dweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015