No themes applied yet
Trystio Duw
Iʼr arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1Dw iʼn troi atat ti am loches, O ARGLWYDD;
paid gadael i mi gael fy siomi.
Rwyt tiʼn gyfiawn, felly achub fi.
2Gwranda arna i!
Achub fiʼn fuan!
Bydd yn graig ddiogel i mi,
yn gaer lle bydda iʼn hollol saff.
3Ti ydyʼr graig ddiogel yna; ti ydyʼr gaer.
Cadw dy enw da,
dangos y ffordd i mi ac arwain fi.
4Rhyddha fi oʼr rhwyd sydd wediʼi gosod iʼm dal i,
Ie, ti ydy fy lle diogel i.
5Dw iʼn rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di.
Dw iʼn gwybod y gwnei di fy rhyddhau i
achos ti, o ARGLWYDD, ydyʼr Duw ffyddlon.
6Dw iʼn casáuʼr rhai syʼn addoli eilunod diwerth;
ond dw iʼn dy drystio di, ARGLWYDD.
7Bydda iʼn dathluʼn llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon.
Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i
ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo,
8Paid gadael iʼr gelyn fy nal i;
gad i mi ddianc i le agored.
9Helpa fi, O ARGLWYDD,
mae hiʼn argyfwng arna i.
Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder –
fy nghorff i gyd, a dweud y gwir.
10Dw iʼn cael fy llethu gan boen;
mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan.
Mae pechod wedi fy ngwneud iʼn wan,
ac mae fy esgyrn yn frau.
11Maeʼr holl elynion sydd gen i
yn gwneud hwyl am fy mhen.
Mae fy ffrindiau yn arswydo;
mae pobl yn cadw draw pan maen nhwʼn fy ngweld i ar y stryd.
12Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw!
Dw iʼn dda i ddim, fel jar sydd wedi torri.
13Dw iʼn clywed beth maen nhwʼn ei sibrwd,
aʼr straeon ofnadwy syʼn dod o bob cyfeiriad.
Maen nhwʼn cynllwynio yn fy erbyn i;
maen nhw eisiau fy lladd i.
14Ond dw iʼn dy drystio di, O ARGLWYDD.
Dw iʼn datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!”
15Dw iʼn dy ddwylo di;
achub fi o afael y gelynion sydd ar fy ôl i.
16Bydd yn garedig at dy was.
Dangos mor ffyddlon wyt ti; achub fi!
17O ARGLWYDD, paid âʼm siomi pan dw iʼn galw arnat.
Gwna iʼr rhai drwg gael eu siomi;
cau eu cegau nhw unwaith ac am byth.
18Rho daw ar y rhai syʼn dweud celwydd,
y bobl hynny syʼn herioʼr rhai syʼn bywʼn iawn
ac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw.
19Ond mae gen ti gymaint o bethau da
iʼw rhoi iʼr rhai syʼn dy addoli di.
O flaen pawb, byddiʼn rhoiʼr cwbl iddyn nhw,
sef y rhai syʼn troi atat ti am loches.
20Rwyt ti gyda nhw, ac yn eu cuddio
rhag y dynion syʼn cynllwynio yn eu herbyn.
Tiʼn cysgodi drostyn nhw
ac maen nhwʼn saff
rhag y tafodau miniog syʼn ymosod.
21Bendith ar yr ARGLWYDD!
Mae wedi bod yn anhygoel o ffyddlon
pan oedd y gelynion yn ymosod.
22Rôn i mewn panig, ac yn meddwl,
“Ti ddim yn gweld beth syʼn digwydd i mi!”
Ond na, pan oeddwn iʼn crefu am help
roeddet ti wedi clywed.
23Felly carwch yr ARGLWYDD,
chi syʼn ei ddilyn yn ffyddlon.
Maeʼr ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai syʼn ffyddlon iddo,
ond maeʼn taluʼn ôl yn llawn iʼr rhai syʼn haerllug.
24Byddwch yn ddewr a hyderus,
chi syʼn credu y bydd yr ARGLWYDD yn eich ateb chi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015