Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Pan briodon ni dair blynedd yn ôl, darllenwyd y geiriau o Ruth 1.16–17 yn ein priodas. Maen nhw'n dechrau gyda, "Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i'n mynd i aros ble bynnag fyddi di'n aros." Fe wnaethon ni ddewis hyn oherwydd ei fod yn ymwneud â ffyddlondeb, a gwneud penderfyniad heb gyfri’r gost a beth sy'n mynd i ddigwydd.

'Y llynedd, roeddwn i'n feichiog. Cefais feichiogrwydd eithaf anodd. Fe wnaethant brofion gwaed yn yr ysbyty a darganfod nad oedd fy iau’n ymddangos ei fod yn gweithio’n dda. Roedd cemegyn yn fy ngwaed y gwyddent os oedd yn cyrraedd pwynt digon uchel, y gallai atal calon y babi. Roedd yn brofiad hunllefus.

'Y diwrnod cyn iddi gael ei geni, roedd fy nghanlyniadau gwaed dros bob man. Fe ddaethon nhw o hyd i afreoleidd-dra’r galon. Roedd ofn na fyddai hi'n cael ei geni'n fyw. Eisteddodd fy ngŵr a minnau yn yr ardd y tu allan i'r ysbyty a chrio. Dywedais, "Rhaid iddi gael enw, hyd yn oed os na chaiff ei geni'n fyw." Roedd yn amlwg bod yn rhaid iddi fod yn Ruth. Ni all unrhyw beth ein gwahanu oddi wrth y babi hwn. Ni allai unrhyw sefyllfa olygu nad oedd hi'n real, nad oedd yn blentyn i ni a roddwyd inni gan Dduw. Siaradodd yr adnodau hynny yn rymus â ni wrth eistedd yn yr ardd honno.

'Rwy'n hoffi bod Ruth yn y Beibl yn deyrngar ac yn ffyddlon, ond mae hi hefyd yn benderfynol. Rwy'n hoffi ei dycnwch. Mae’n rhywbeth oddi wrth Dduw. Mae E'n glynu wrthym ni. Rwy'n hoffi hynny.

'Mae ein babi Ruth yn gwneud yn wych nawr. Mae hi'n tyfu ac yn ffynnu ac yn ddireidus. Mae ganddi rywfaint o'r dycnwch a'r penderfyniad hwnnw. Gwelwn hynny eisoes pan mae hi eisiau gwneud pethau. Roeddem yn teimlo wedi ein trawmateiddio erbyn yr wythnosau cyntaf, yn enwedig yn y pandemig, gan ei bod ar beiriant anadlu. Rwy'n ddiolchgar iawn, iawn i'r profiad ddod i ben fel hyn.'

 

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible