Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Cefais fy mharlysu yn 26 oed. Cyn hynny roeddwn wedi byw bywyd arferol, wedi mynd i’r ysgol, coleg ac yna’r brifysgol. Roedd popeth yn mynd yn dda ac roedd fy mywyd yn llawn cyfle.

‘Yna fe’m cymerwyd yn wael. Nid oeddwn yn bwyta'n rhy dda. Cefais fy anfon i’r ysbyty gyda blinder. Collais weithrediad yr asgwrn cefn yn 2018. Roeddwn yn y broses o gwblhau fy ail radd pan es yn sâl.

‘Gydag amser rwyf wedi llwyddo i adennill gweithrediad yr asgwrn cefn er bod y sefyllfa’n dal yn ddigalon ac mae fy ngallu i ymgymryd ag ymarfer corff yn gyfyngedig. Gallaf wisgo fy hun, ond ni allaf gario cwpl o fagiau o Sainsbury’s. Nid oes gennyf allu corfforol llawn pobl eraill bellach.

''Mae anabledd yn anodd. Mae'r cynnydd mewn pwysau yn arbennig o anodd ei gymryd. Rwy’n ceisio tynnu ar gryfder yr Arglwydd ond mae hynny hefyd yn anodd.

‘Deuthum ar draws yr adnodau hyn yn ddiweddar yn llyfr Barnwyr 6, sy’n fy helpu yn fy mhryderon wrth imi chwilio am waith. Yn Barnwyr 6.13–14, mae Gideon yn cwestiynu a yw Duw wedi cefnu arnyn nhw. Yn adnod 14 mae’n dweud, "Ond yna, dyma'r Arglwydd ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti'n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy'n dy anfon di.”

‘Dywedodd ei fod gyda nhw hyd yn oed yng ngwendid person. Siaradodd hynny â mi. Mae angen cryfder ac arweiniad Duw arnaf er mwyn gallu ymgymryd â brwydrau. Dod o hyd i waith yw'r frwydr fwyaf i mi. Pan rydych chi'n anabl, mae'n gymaint anoddach.

‘Mae’r adnodau hyn yn golygu i mi y bydd Duw yn cadw ei addewidion i mi. Gobeithio y bydd Duw yno i mi. Gobeithio bod Duw yn fy arfogi i fod yn offeiriad. Dydw i ddim eisiau peidio â gweithio. Rydw i eisiau byw fy mywyd.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible