Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Bu fy ngŵr a minnau'n briod am 50 mlynedd. Cyfarfûm ag ef mewn Clwb Catholig. Daeth i mewn a meddyliais, ‘Onid ydy o’n neis?’ Es i ddim am ychydig wythnosau, ac yna cynhaliwyd drama, felly es i’w gweld. Roeddwn i yn y rhes flaen ac fe ddaeth ac eistedd wrth fy ymyl. Meddai, ‘Dw i wedi bod yn edrych allan amdanat ti.’ A dyna oedd hynny.

'Ni allech fod wedi cael rhywun anwylach. Fe allech chi ymddiried ynddo. Roedd o’n ddyn da. Roedd ganddo gymaint o jôcs. Roedd yn ddyn hapus, yn fodlon iawn ei fyd. Roedd yn ŵr bonheddig go iawn. Nid oes llawer o’r rheini o gwmpas nawr.

'Pan oedd fy ngŵr yn wael ychydig flynyddoedd yn ôl, aed ag ef i'r ysbyty gyda'r nos. Cafodd lawdriniaeth. Fe wnaethon nhw fy ffonio a dweud, ‘Dewch ar frys, mae e’n wael iawn.’ Roeddwn yn aros am dacsi a phan gyrhaeddais yno roedd hi’n rhy hwyr. Roedd hynny'n sioc fawr.

'Mae adnod yn y Beibl sy’n dweud, ‘Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw.’

'Pan ewch chi trwy gyfnodau anodd fel yna, mae'r adnod honno'n ddefnyddiol. Fe wnaeth fy atgoffa mai Duw sydd wrth y llyw. Rwy'n gweld ei eisiau. Roedd yn sant i roi i fyny gyda mi. Ond rydw i wedi cael y nerth i ddal ati.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible