Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
'Pan oeddwn i'n chwech neu saith oed, roeddwn i'n arfer hoffi aros gyda fy hen fodryb. Roedd ganddi frodwaith ar y wal, wedi'i addurno â rhosod, lilis a blodau’r gwynt hyfryd. Geiriau 1 Pedr 5.7 oedd arno, ‘Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch’. Rwy'n berson gweledol iawn. Rwy'n dysgu trwy edrych. Pan oeddwn yn blentyn, roeddwn bob amser yn credu'r hyn a ddywedodd yr adnod honno.
Nid yw rhai o fy ffrindiau yn gwybod sut i ddarllen y Beibl ar eu pennau eu hunain. Felly, yn ystod y cloi, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gwneud astudiaeth Feiblaidd ar-lein. Dechreuais gydag 1 Peter. Dywedodd Iesu wrth Pedr am fwydo ei ddefaid ac roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gwneud yr un peth. Meddyliais y byddai'n llyfr da i edrych arno.
Fe wnes i fideo bach bob dydd am gwpl o wythnosau. Roeddwn i am annog pobl, oherwydd rydw i bob amser wedi cael y Beibl yn ffynhonnell gysur rhyfeddol ac roeddwn am i bobl eraill wybod sut i gael gafael ar hynny a pheidio â bod ofn mynd ato. Rwyf wedi derbyn ymateb da iawn. Mae pobl wedi ei gael yn galonogol.
Mae i’r llyfr hwn edau euraidd o obaith mewn dioddefaint yn rhedeg trwyddo. Mae'r adnod honno’n rhoi heddwch go iawn i mi. Nid yw hyn oll yn fy mhoeni, oherwydd rwy’n ymddiried yn Nuw ei fod gyda mi'.
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]