Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

Rwy'n berson eithaf positif. Rwy'n ceisio gwneud y gorau o'r sefyllfa ac rwy'n cadw'n brysur. Ond un o'r pethau anoddaf yw peidio â gweld fy mam. Y peth anodd oedd ei bod wedi cynllunio parti mawr ar gyfer ei phen-blwydd yn 80 oed. Aeth hynny i’r gwellt. Nid oedd gallu postio anrheg iddi yr un peth â'i rhoi yn ei dwylo a'i gweld yn ei hagor.

Mae dathlu pen-blwydd yn 80 yn achlysur mawr. Dim ond unwaith y bydd hi'n 80 oed. Fe gawn ni’r parti yn y dyfodol, os yw'r bwyty'n dal i fynd. Ond y ffaith yw bod yn rhaid i'r diwrnod ei hun fynd heibio heb gael ei nodi, heblaw gyda galwad ffôn.

Rwy'n unig blentyn, felly rwy'n teimlo cyfrifoldeb. Mae hi'n ddioddefwr polio, ac nid yw ei hiechyd yn dda. Mae hi’n cael llawer o boen nerfau ac mae'r defnydd o'i dwylo yn dod yn fwy a mwy anodd. Mae hi'n cael trafferth gyda phethau fel agor jariau a thorri bara. Ni allaf fynd i mewn i’r car a mynd i'w helpu. Mae hynny'n bryder i mi.

Rydyn ni'n siarad bob dydd ar y ffôn. Gallwn dreulio 40 munud yn parablu. Rydyn ni'n rhannu lluniau ar e-bost ac yn dweud wrth ein gilydd beth sy'n digwydd yn ein gerddi.

Mae Ioan 20.26 wedi fy helpu. Mae’n llygaid yn llenwi dim ond wrth ei ddarllen eto nawr. Dywed, ‘Ymhen wythnos, yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. A dyma Iesu'n dod, er bod y drysau wedi eu cloi, ac yn sefyll yn y canol a dweud, “Tangnefedd i chwi!”. ’

Yr hyn rwy'n ei wybod, yw bod Iesu gyda ni. Mae e yn y bylchau lle na allwn ni fod. Mae e yn ein galwadau Zoom a'n galwadau ffôn. I fy mam a minnau, mae'n helpu oherwydd ein bod ni'n rhannu ffydd. Rydyn ni'n gallu siarad am bethau rydyn ni wedi'u cael yn ddefnyddiol, ac rydyn ni'n gwybod y bydd Duw yn gofalu am ein gilydd nes ein bod ni'n cwrdd eto'n gorfforol.

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible