Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Meddyg teulu ydw i. Ar hyn o bryd, nid ydym at ei gilydd yn cael cyswllt wyneb yn wyneb â chleifion, er ein bod yn dal i weld cleifion ar alwadau fideo ac ar y ffôn. Nid yw'r ffôn byth yn stopio canu. Mae cleifion oedd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl o'r blaen, bellach yn pryderu mwy, ac mae eraill yn darganfod bod clawstroffobia ac arwahanrwydd y cloi’n achosi problemau iechyd meddwl.

Credaf, oni bai am adnabod yr Arglwydd, byddwn yn poeni llawer mwy am fy iechyd fy hun. Rydych chi'n cymryd mesurau cywir, ond pan fyddwch chi'n gwybod mai'r Arglwydd sy'n rheoli ac os ydych chi'n cael yr haint, neu'n marw, mae'r cyfan yn nwylo'r Arglwydd, mae hynny'n cymryd peth o'r pryder i ffwrdd.

Mae Rhufeiniaid 8: 31-32 wedi bod yn siarad â mi dros yr wythnosau diwethaf. Mae'n dweud, ‘O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?’ Yr hyn sy’n rhyfeddol am air Duw yw ei fod yn rhoi persbectif i chi. Mae'n eich daearu chi.

Mae'r darn hwn yn rhoi persbectif i mi, yr ymdeimlad o alwad Duw ac felly bod fy hunaniaeth ynddo ef. Fel gweithiwr iechyd, mae'n hawdd canmol ein hunain am yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Ond mae hyn yn fy atgoffa bod Duw wedi fy ngalw i fod lle rydw i a'i gryfder ef sy'n fy ngalluogi i wneud hynny. Mae'n ddarn rhyfeddol sy'n dangos ei gariad i mi.

Mae hefyd yn fy atgoffa mai pechod yw'r broblem fwyaf sy'n ein hwynebu, nid Covid-19. Mae hynny wedi fy helpu i weld darlun mwy na'r hyn rydyn ni'n ei brofi ar hyn o bryd. Mae wedi fy helpu i gofio nesáu at Dduw yn ei air, a dyna rwyf yn ei wneud y peth cyntaf yn y bore. Mae'n rhoi sail i mi ar gyfer y diwrnod'.

 

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible