Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

Roeddem wedi bod yn mynd ar wyliau i Swydd Amwythig am 10 mlynedd ac yn teimlo ein bod yn cael ein tynnu yno. Ond nid felly oedd bywyd. Roedd fy ngŵr yn gweithio yn Llundain bryd hynny. Ond, y llynedd, fe helpodd Duw ni i symud o gartref pedair llofft mewn maestref i dyddyn yn Swydd Amwythig.

Yn ystod y symud, cawsom ein ffilmio ar gyfer A Country Life For Half the Price gyda Kate Humble ar Channel 5. Oni bai am y rhaglen, ni fyddem wedi bod â diddordeb yn yr anifeiliaid: y fuwch, y moch a'r ieir. Wnaethon ni ddim mynd ati i chwilio am yr anifeiliaid hyn. Daethon nhw atom ni.

Roeddem wedi ceisio cael buwch wedi ei danfon atom ers cymaint o fisoedd. Fe wnaethon ni weddïo, a diolch byth, fe gyrhaeddodd y fuwch ychydig ddyddiau cyn y cloi. Mae 11 ohonom, ac mae hyn yn golygu bod gennym bellach doreth o lefrith, a digon i'w rannu gyda'r rhai mewn angen. Ar gyngor athro mathemateg fy mab (a brocwyd yn amlwg gan Dduw), aeth y moch i gael eu lladd oriau cyn i ni fynd yn wael gyda symptomau coronafeirws, ac felly nawr mae gennym borc am fisoedd. Mae gennym 11 o ieir ac rydyn ni'n cael tua 8 wy y dydd, ac rydyn ni'n tyfu ein ffrwythau a'n llysiau ein hunain. Roedd fel petai Duw yn dweud, ‘Rwy’n mynd i ddangos fy narpariaeth, a hynny mewn pryd’.

Cefais symptomau Covid-19 difrifol. Fe gawsom ni i gyd rai symptomau, ar wahân i fy ngŵr a oedd yn ansymptomatig. Rydyn ni i gyd yn well nawr. Mae hi wedi bod yn iawn, heblaw am y pryder sydd gennych chi wrth feddwl a yw hyn yn mynd i waethygu.

Dywed Eseia 65.24, ‘Bydda i'n ateb cyn iddyn nhw alw arna i.’ Roedd yn teimlo fel pe bai Duw wedi ateb ein hanghenion cyn i ni hyd yn oed wybod eu bod yn bodoli.

Mae'r hyn rydyn ni'n gweithio drwyddo nawr yn boenus, ond gwyddom fod gan Dduw gynllun ynddo. Rydym ni’n ei freichiau. Am Dduw rhyfeddol rydyn ni'n ei wasanaethu.

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible